Mae dynes wedi cyfaddef iddi ladd ei mab saith oed.
Wrth fynd gerbron Llys y Goron Abertawe, fe wnaeth Papaipit Linse, sy’n 43 oed ac yn dod o Hwlffordd, bledio’n euog i ddynladdiad Louis drwy gyfrifoldeb lleihaedig.
Roedd hi wedi’i chyhuddo o lofruddio ar ôl i’w mab farw ym mis Ionawr, ond roedd hi’n gwadu’r cyhuddiad hwnnw.
Cefndir
Clywodd y llys fod Heddlu Dyfed-Powys wedi’u galw i Stryd y Farchnad, Hwlffordd toc cyn 10.45yb ar Ionawr 10.
Papaipit Linse oedd wedi ffonio’r gwasanaethau brys i roi gwybod iddyn nhw am gyflwr ei mab, gafodd ei ganfod yn ei wely ac a fu farw’n fuan wedyn.
Cafodd ei harestio yn y fan a’r lle, a’i chyhuddo o lofruddio.
Ond mae’r llys bellach wedi derbyn ple o ddynladdiad drwy gyfrifoldeb lleihaedig, a bydd hi’n cael ei dedfrydu ar Ragfyr 13.
Mae’r heddlu wedi canmol y swyddogion wnaeth ymateb i’r digwyddiad “â phroffesiynoldeb a gofal”, gan gynnal “ymchwiliad trylwyr”.