Mae hwn yn ddechrau gwahanol i erthygl arferol…

Mae ‘nhad, Siôn Aled Owen, fel arfer yn sgwennu teyrnged, neu englyn, i rywun sydd wedi’n gadael ni, gan gynnwys postio’r englynion ar Facebook.

Ond dywedodd nad oedd o’n bwriadu gwneud yr un fath ar gyfer John Prescott… Ond pam, tybed?

Dywed nad yw’n “tueddu i adweithio i bobol fel [Donald] Trump” – “dydi o ddim wedi ysbrydoli englyn!” meddai.

“Dwi’n cofio fo fel wyneb y chwith yn Llywodraeth Tony Blair,” meddai wrth golwg360.

“Ac mi oedd o’n cynnal y traddodiad yna, ond mewn rhyw fath o fudd i Blair.

“I ddweud y gwir, roeddwn i’n ei weld o fel stereoteip o hen Lafur.”

Ychwanega fod gan John Prescott “rôl allweddol” o fewn gwleidyddiaeth Prydain, a’i fod yn “ddyn eithaf gonest” o ran ei bersonoliaeth.

He was ready to connect with the electorate,” meddai, wrth sôn am yr achlysur pan wnaeth John Prescott daro ymgyrchydd â’i ddwrn yn y Rhyl pan daflodd ŵy ato.

O blaid rhanbarhau Lloegr

Roedd John Prescott o blaid datganoli i ranbarthau Lloegr, nid lleiaf yn 2004 pan gafodd refferendwm ei gynnal, a’i golli gan y rheiny oedd am weld datganoli rhanbarthol yn llwyddo.

Yn debyg i refferendwm datganoli Cymru yn 1979, dim ond un ym mhob pump oedd wedi pleidleisio o blaid.

“Dwi’n cofio yn gryf iawn adeg hynny, roedd o’n amlwg wedi torri’i galon efo’r peth,” meddai Siôn Aled Owen.

Roedd ynddo nerth hen werthoedd – sosialaeth

yn sail i’w weithredoedd:

er nawdd y Blêr-flynyddoedd,

dyn uwch nod un dyrnod oedd.

John Prescott “byth yn siarad am Gymru”, medd Ron Davies

Rhys Owen

Bu cyn-Ysgrifennydd Cymru’n siarad â golwg360 am ddylanwad y “cymeriad mawr” fu farw’n 86 oed
John Prescott, cyn-ddirprwy Brif Weinidog Llafur

Teyrngedau o Gymru i’r “cawr gwleidyddol” John Prescott

Cafodd y cyn-Ddirprwy Brif Weinidog Llafur ei eni ym Mhrestatyn