Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r Arglwydd John Prescott, y cyn-Ddirprwy Brif Weinidog Llafur, sydd wedi marw’n 86 oed.

Bu’n byw â chyflwr Alzheimer.

Does neb wedi bod yn ddirprwy brif weinidog am gyfnod hirach na fe, ac yntau wedi bod yn y swydd rhwng 1997 a 2007.

Yn gyn-undebwr llafur, bu’n Aelod Seneddol dros Ddwyrain Kingston upon Hull am ddeugain mlynedd.

Roedd yn ffigwr allweddol ym mudiad Llafur Newydd o dan Tony Blair.

Roedd yn allweddol wrth sicrhau cytundeb newid hinsawdd Kyoto, sef ymrwymiad i dorri allyriadau nwyon tŷ gwydr gan 5% erbyn 2012.

Ymunodd â chabinet cysgodol Llafur yn 1983, ac yntau’n gyfrifol am drafnidiaeth.

Yn aml iawn, byddai’n cael ei ystyried yn heddychwr rhwng Tony Blair a Gordon Brown, ac roedd hefyd yn allweddol yn y berthynas rhwng Llafur a’r undebau.

Daeth yn arglwydd yn 2010, ond fe wnaeth e barhau’n weithgar ar reng flaen Llafur wrth gynghori Ed Miliband a chefnogi Jeremy Corbyn.

Daeth ei gyfnod yn Nhŷ’r Arglwyddi i ben eleni yn dilyn cyfnodau o salwch.

Mewn datganiad, dywed ei deulu mai cynrychioli ei etholaeth oedd ei “anrhydedd fwyaf”.

Yn enedigol o Brestatyn, fe adawodd e’r ysgol yn bymtheg oed i fynd i’r Llynges Fasnachol, cyn mynd i astudio yng Ngholeg Ruskin yn Rhydychen (nid yw’r coleg yn rhan o Brifysgol Rhydychen).

Ffigwr dadleuol

Yn gymeriad bywiog a hwyliog, gallai John Prescott fod yn ffigwr dadleuol hefyd, nid lleiaf pan ddaeth i Gymru yn 2001 a bwrw aelod o’r cyhoedd.

Cafodd ei daro ag ŵy gan brotestiwr wrth gerdded i mewn i rali Llafur yn y Rhyl cyn yr etholiad cyffredinol y flwyddyn honno, ar y diwrnod y cafodd maniffesto’r Blaid Lafur ei gyhoeddi.

Taflodd e ergyd â’i law chwith at Craig Evans, gweithiwr amaeth, wnaeth achosi ffrwgwd.

Mynnodd Prescott ei fod yn ceisio amddiffyn ei hun.

Fe wnaeth Sky News adrodd y stori, ond fe wnaeth Llafur fygwth cyfraith yn eu herbyn.

Fe wrthododd Prescott ymddiheuro.

Cafodd e gefnogaeth y cyhoedd ar y cyfan, ac aeth Llafur yn eu blaenau i ennill yr etholiad.

‘Cawr gwleidyddol’

“Trist iawn i glywed am farwolaeth John Prescott bore’ ma,” meddai Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru.

“Wedi ei eni ym Mhrestatyn, roedd yn gawr gwleidyddol, gyda bron i 40 mlynedd fel Aelod Seneddol a degawd fel Dirprwy Brif Weinidog.

“Daeth John Prescott i lansio fy ymgyrch ym Mhortmeirion pan wnes i sefyll i fod yn Aelod o Senedd Ewrop yn 1994.

“Cawson ni lwyth o goffi a croissants yn barod i’r wasg, a wnaeth neb droi lan!

“Roedd e’n ei dweud hi’n blwmp ac yn blaen, ac roeddech chi bob amser yn gwybod lle’r oeddech chi’n sefyll.

“Fe wnaeth e gysylltu mewn ffordd doedd eraill yn methu gwneud – yn ddarn allweddol o’r jig-so i’r Llywodraeth Lafur.

“Bydd colled ar ei ôl yn y mudiad Llafur.

“Anfonaf fy nghydymdeimlad dwysaf at ei ffrindiau a’i deulu.”

Cafodd ei sylwadau eu hategu gan Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd.

“Yn llais dosbarth gweithiol o fewn y Blaid Lafur, roedd yn gymeriad go iawn oedd yn sefyll yn angerddol dros yr hyn roedd e’n credu ynddo fe – un o’r olaf o frîd gwahanol,” meddai.

“Dw i’n drist iawn o glywed am ei farwolaeth, ac mae fy meddyliau gyda’i deulu.”

Mae wedi’i ddisgrifio fel “cawr” gan Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, hefyd.

“Trist o glywed am farwolaeth John Prescott,” meddai.

“Cawr y mudiad Llafur.

“Roeddwn yn ffodus o gael ei gyfweld yn newyddiadurwr ifanc.

“Di-flewyn-ar-dafod. Caled!

“Ond gyda gwên ac wedi’i yrru gan egwyddor, fe ddywedodd yr hyn roedd e’n ei feddwl, ac yn meddwl yr hyn roedd e’n ei ddweud.

“Fy nghydymdeimlad â’i anwyliaid.”