Wrth siarad â golwg360, mae Huw Irranca-Davies, Dirprwy Brif Weinidog Cymru, wedi bod yn rhannu ei brofiadau o yrru beic modur trydanol gyda Josh Navidi, cyn-chwaraewr rygbi Cymru.

Bu’r ddau yn rhan o ddigwyddiad yn Techniquest ym Mae Caerdydd ar gyfer Wythnos Hinsawdd Cymru yr wythnos ddiwethaf.

Pwrpas y digwyddiad oedd tynnu sylw at gerbydau trydanol yng Nghymru.

Hefyd yn y digwyddiad roedd Chris a Julie Ramsey, cwpwl oedd wedi gyrru 17,000 o filltiroedd mewn cerbyd trydanol o Begwn y Gogledd i Begwn y De.

“Uchafbwynt” Wythnos Hinsawdd Cymru

Y daith ar gefn beic modur oedd uchafbwynt Wythnos Hinsawdd Cymru i Huw Irranca-Davies.

“Dw i dal yn hen feiciwr modur!” meddai wrth golwg360.

“Felly, roeddwn i wrth fy modd i weld bod beiciau modur trydanol o Brydain yn cael eu harddangos yno.”

Dywed ei fod o a Josh Navidi wedi mwynhau “gwibio” o amgylch y brifddinas ar eu beiciau modur.

“Mae e’n arwr i fi,” meddai.

“A dw i’n cofio tynnu i fyny wrth y goleuadau a chael sgwrs dda cyn dechrau gwibio o gwmpas eto.”

Ychwanega nad yw’r elfen drydanol i feiciau modur “yn golygu bod yr hwyl yn cael ei thynnu allan” o’r cyffro wrth yrru beic modur.

“Mae yna gymaint o gyfle hefyd am swyddi,” meddai.

“A chyfle i bobol ifanc ddod i mewn i’r maes cerbydau trydanol.”

‘Rhaid cael seilwaith yn ei le’

Un peth sy’n cael ei nodi gan bobol yng Nghymru fel rhwystr rhag prynu car neu feic modur trydanol yw cyn lleied o seilwaith gwefru sydd ar gael, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

Mae gan Lywodraeth Cymru Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan ers 2021, ac mae honno’n dweud:

Erbyn 2025, bydd pawb sy’n defnyddio ceir a faniau trydan yng Nghymru yn hyderus y gallant gael at seilwaith gwefru cerbydau trydan ar yr adeg ac yn y man lle y mae arnynt ei angen.

Dywed y Llywodraeth fod yna 3,000 o fannau gwefru yng Nghymru heddiw.

Er bod y targed yn ei le, mae Huw Irranca-Davies yn cyfaddef fod rhaid gwneud mwy.

“Mae’n rhaid i ni gael y seilwaith yn ei le,” meddai.

“Ac mae hynny’n golygu mannau gwefru ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys mewn ardaloedd gwledig – gan gynnwys rhai sydd eisiau teithio o’r gogledd i’r de.”

Ychwanega ei fod o eisiau gweld mwy o fannau gwefru mewn cymunedau trefol lle gall fod yn anodd gwefru o’r tŷ.

“Rydym eisiau darparu mannau gwefru i gymunedau trefol fel ei bod hi’n hawdd iddyn nhw wefru dros nos.”

‘Partneriaeth rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat’

Dywed Huw Irranca-Davies fod yna bartneriaeth rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat er mwyn gwireddu’r cynlluniau.

Yn rhan o hynny, mae hyrwyddo’n bwysig i fedru dangos i bobol yng Nghymru ei bod yn bosib cael ceir trydan, hyd yn oed mewn ardaloedd gwledig.

“Yr wythnos ddiwethaf, roedd Rali Cerbydau Trydanol Cymru,” meddai.

“Felly, roedd gennym ni amryw o gerbydau mawr a bach, gan gynnwys beiciau modur trydanol, oedd yn mynd o gwmpas Cymru ar daith tri diwrnod i brofi eich bod chi’n gallu mynd o’r gogledd i’r de, a phob pwynt rhwng y rheiny, heb amharu ar eich siwrne.”