Mae ymchwil newydd gan y Brifysgol Agored yn awgrymu bod pobol ifanc yng Nghymru’n fwy tebygol o fod yn anfodlon â sut mae democratiaeth a gwleidyddiaeth ffurfiol yn gweithredu.

Mae’r ymchwil yn sbardun argymhellion i’r Llywodraeth gyflwyno cwricwlwm addysg wleidyddol fwy estynedig yn ysgolion y Deyrnas Unedig.

Mae’n rhan o brosiect ehangach y Brifysgol Agored, ‘Ysgogwyr Newid’, sy’n ceisio cynnig gwybodaeth briodol i bobol ifanc ar sut i weithredu ar faterion sydd o bwys iddyn nhw.

Diffyg addysg wleidyddol yn gwneud i “lawer o bobol deimlo’n analluog”

Bu adran wleidyddiaeth y Brifysgol Agored yn gweithio gyda phobol 16 i 24 oed yng Nghymru i ddarganfod beth maen nhw’n ei wybod am sefydliadau gwleidyddol yn y Deyrnas Unedig, a sut i sbarduno newid cymdeithasol.

Ymhlith canfyddiadau eu hymchwil mae’r awgrym nad yw pobol ifanc yn hyderus yn eu gallu i greu newid nac i ddefnyddio systemau democrataidd.

Mae pobol ifanc Cymru’n teimlo’u bod yn fwy tebygol o fedru dylanwadu ar newid drwy ddefnyddio dulliau all-seneddol, fel ymgyrchu lleol a chreu deisebau, a bod mwy o ddylanwad ganddyn nhw dros Senedd Cymru nag sydd ganddyn nhw dros y senedd yn San Steffan.

Ond mae diffyg hyder lawn yn y dulliau hyn hefyd.

Cyfryngau cymdeithasol a newyddion

Yn ogystal, mae’n ymddangos mai’r cyfryngau cymdeithasol ydy prif ffynhonnell newyddion pobol ifanc erbyn hyn.

“Mae cyflymder y newid mewn gwleidyddiaeth, technoleg a’r cyfryngau yn gynt nag erioed,” meddai Donna Smith, Uwch Ddarlithydd mewn Gwleidyddiaeth yn y Brifysgol Agored, a phrif awdur yr adroddiad.

“Er bod hyn yn gyffrous, mae’n gallu bod yn anodd dal i fyny, a gall llawer o bobol deimlo’n analluog os byddan nhw yn credu bod penderfyniadau’n cael eu gwneud hebddyn nhw.

“Mae ein gwaith ymchwil wedi dangos bod pobol ifanc yn fwy tebygol o deimlo fel hyn am wleidyddiaeth, ac yn llai tebygol o bleidleisio neu ymuno â phlaid wleidyddol.”

Prosiect ‘Ysgogwyr Newid’

Yr angen i ddarparu addysg wleidyddol fwy trylwyr i bobol ifanc ydy prif ganlyniad yr ymchwil.

Yn ogystal ag argymell newidiadau i’r cwricwlwm, mae’r Brifysgol Agored hefyd wedi creu gwefan i hwyluso’r broses o ddarparu gwybodaeth wleidyddol i bobol o bob oed.

Mae’r wefan ‘Ysgogwyr Newid’ yn rhoi cyngor ymarferol i bobol ynglŷn â sut i weithredu ar faterion sy’n bwysig iddyn nhw.

Mae’n cynnwys gwybodaeth am senedd y Deyrnas Unedig yn San Steffan, Senedd Cymru, a chynghorau lleol, gan egluro pa un o’r rhain sy’n gyfrifol am wahanol feysydd polisi.

“Mae’n bwysig bod pob un ohonom sydd â diddordeb yn ein proses ddemocrataidd yn cefnogi pobol ifanc i ddysgu am ddinasyddiaeth mewn ffordd sy’n addas iddyn nhw, fel eu bod yn teimlo bod ganddyn nhw fwy o rym i newid yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw,” meddai Donna Smith.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru i argymhellion y Brifysgol Agored.