Mae Donald Trump, darpar Arlywydd yr Unol Daleithiau, wedi dewis dynes o dras Gymreig fel enwebai i fod yn Ysgrifennydd Addysg yn ei lywodraeth.
Edwards oedd cyfenw teulu Cymreig Linda McMahon, sy’n enedigol o Ogledd Carolina ac sydd wedi’i dewis gan Trump i fod yn gyd-gadeirydd ei daith tua’r Tŷ Gwyn.
Mae hi’n fwyaf adnabyddus, efallai, fel cyn-Brif Weithredwr y corff reslo WWE ac fel cyd-sylfaenydd Titan Sports, rhiant-gwmni i WWE.
Ond mae hi a’i gŵr, ynghyd ag arweinwyr eraill y cwmni, wedi bod dan y lach yn dilyn honiadau eu bod nhw wedi galluogi bechgyn ifainc i gael eu camdrin gan gyhoeddwr gornestau.
Maen nhw’n gwadu eu bod nhw wedi gwneud unrhyw beth o’i le.
Arweiniodd Linda McMahon Weinyddiaeth y Busnesau Bach yn ystod cyfnod cyntaf Trump wrth y llyw, gan roddi miliynau o bunnoedd tuag at ei ymgyrch arlywyddol.
Adran Addysg
Mae Donald Trump wedi beirniadu Adran Addysg yr Unol Daleithiau droeon, gan addo cau’r adran yn gyfan gwbl yn sgil eu polisïau “woke“.
Gallai hynny gael ei wireddu maes o law gan Linda McMahon pan fydd Trump yn cyhoeddi ei lywodraeth ar ôl dod yn Arlywydd ym mis Ionawr.
Mae hi wedi bod yn ymgeisydd ar gyfer Senedd yr Unol Daleithiau yn y gorffennol, a bu’n aelod o Fwrdd Addysg Connecticut rhwng 2009 a 2010.
Mae hi’n gadeirydd Sefydliad Polisi America First.
Byddai angen sêl bendith haen ucha’r Gyngres cyn ei phenodi’n Ysgrifennydd Addysg.