Fe fydd arlywyddion Catalwnia a’r Undeb Ewropeaidd yn cyfarfod ym Mrwsel i drafod rhoi statws swyddogol i’r Gatalaneg.

Daw’r cyfarfod wrth i Salvador Illa, Arlywydd Catalwnia, ymweld â phrifddinas Gwlad Belg am y tro cyntaf ers iddo fe ddod i’r swydd.

Yn ystod ei ymweliad deuddydd heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 20) a fory (dydd Iau, Tachwedd 21), bydd yn mynd i gyfarfod Pwyllgor Rhanbarthau Ewrop, ac fe fydd cyfarfod ychwanegol ar gyfer arweinwyr gwleidyddol a busnes.

Nod ymweliad Illa, meddai, yw “adfer normalrwydd cyfansoddiadol” a gwthio’r broses o sicrhau statws swyddogol i’r Gatalaneg yn ei blaen.

Bydd y drafodaeth honno’n digwydd â Roberta Metsola, Arlywydd yr Undeb Ewropeaidd.

Er mwyn sicrhau’r statws, byddai angen cydsyniad pob un o’r 27 gwlad sy’n aelodau, a bydd cyfarfod y Pwyllgor Rhanbarthau’n gyfle da i sicrhau’r gefnogaeth honno.

Dechreuodd ei ymweliad fore heddiw gyda chyfarfod â Vasco Alves Cordeiro, Llywydd y Pwyllgor Rhanbarthau.

Ar ôl cwblhau’r ymweliad, bydd yn teithio i Madrid, lle mae disgwyl iddo fe gyfarfod â Pedro Sánchez, Prif Weinidog Sbaen, ddydd Gwener (Tachwedd 22).