Mae Aelodau’r Senedd wedi bod yn rhoi pwysau ar Ysgrifennydd Gwladol Cymru heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 20), am iddi honni bod Llywodraeth flaenorol y Deyrnas Unedig wedi gwneud ymrwymiad, ‘heb ei ariannu’, o £80m tuag at gronfa bontio i weithwyr dur.

Aeth Jo Stevens gerbron Pwyllgor Economi’r Senedd er mwyn cynnig tystiolaeth am waith dur yng Nghymru, yn dilyn cau ffwrnais chwyth olaf Port Talbot ym mis Medi.

Fe ofynnodd Hefin David o’r Blaid Lafur am y gronfa bontio werth £80m, yn ogystal â’r £13m gafodd ei gyhoeddi’r wythnos ddiwethaf, fydd yn cael ei ddyrannu er mwyn cefnogi busnesau.

Dywedodd Jo Stevens fod y gronfa wedi’i chyhoeddi mewn sioe fawr ym fis Hydref y llynedd, ond nad oedd “un geiniog wedi gadael y drws er mwyn helpu gweithwyr dur” cyn yr etholiad cyffredinol ym mis Gorffennaf.

“Roedd hi’n ofnadwy darganfod nad oedd yr £80m wedi’i ariannu o gwbl mewn gwirionedd; roedd yn ymrwymiad heb ei ariannu gan y llywodraeth flaenorol,” meddai wrth y pwyllgor.

‘Dim byd o gwbl’

“O ystyried y cyhoeddiad a wnaed, a’r ffaith na chafodd yr arian ei ddyrannu wedi hynny, onid yw hyn yn enghraifft o gamarwain Tŷ’r Cyffredin?” gofynnodd Hefin David.

“Dw i’n credu mai cyfrifoldeb fy nghyn-gydweithwyr a wnaeth y cyhoeddiadau hynny ydy cyfiawnhau yr hyn ddywedon nhw, a pham ddywedon nhw hynny,” meddai Jo Stevens wrth ateb.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol wrth y pwyllgor fod yr £80m wedi’i gadarnhau yng Nghyllideb fis Hydref, ac y bydd y gyfran gyntaf o arian, £13.5m, yn cael ei ryddhau fis Gorffennaf nesaf.

Esboniodd hi fod hawl gan weithwyr Tata ac aelodau o’u teulu agos geisio am hyd at £10,000 er mwyn cychwyn busnes, gyda grantiau o hyd at £250,000 ar gyfer busnesau sy’n bodoli eisoes.

“Mewn deuddeg wythnos, mae £26.5m wedi’i gytuno i’w ddyrannu, o gymharu â dim byd o gwbl yn y naw mis blaenorol,” meddai.

‘Anonest’

Rhoddodd Paul Davies, cadeirydd y pwyllgor, bwysau ar Jo Stevens am ei honiad “anonest”.

“Fe ddywedais i nad oedd unrhyw arian wedi gadael y drws er mwyn helpu cymunedau a phobol wedi’u heffeithio gan y trawsnewidiad, ac mae hynny’n fanwl gywir,” meddai, gan ddadlau bod arian wedi’i wario ar asesiadau economaidd cyn iddi gymryd ei swydd.

“Cafodd y cynllun gweithredu economaidd lleol ei gomisiynu, ond doedd dim un geiniog wedi gadael y bwrdd pontio ac wedi mynd at gefnogi unrhywun yn uniongyrchol.”

Cyfeiriodd Paul Davies, Aelod Ceidwadol o’r Senedd, at gytundeb gan Lywodraeth flaenorol y Deyrnas Unedig, oedd yn cynnwys £500m o’r cyllid angenrheidiol o £1.2bn ar gyfer ffwrnais drydannol.

“Pan oeddech chi’n rhan o’r Wrthblaid, fe wnaethoch chi ddisgrifio’r gwariant hwn fel rhan o gytundeb ‘fyrbwyll,’ ac fe wnaethoch chi gyhuddo Llywodraeth flaenorol y Deyrnas Unedig o dalu hanner biliwn o bunnoedd er mwyn gwneud 3,000 o bobol yn ddi-waith,” meddai.

“Serch hynny, mae’r cytundeb rydych chi nawr yn honni sy’n perthyn i chi yn golygu y bydd hanner biliwn o bunnoedd yn cael ei gyfrannu at gost ffwrnais drydannol gwerth £1.2bn, ac mi fydd bron i 3,000 yn dal i golli’u swyddi.

“Onid yr un cytundeb yw hwn ag y gwnaethoch chi ei gondemnio o’r blaen?”

“Na, nid dyma’r un cytundeb,” meddai Jo Stevens.

“Mae gwahaniaeth amlwg rhyngddyn nhw.”

‘Adfachu’

“Mi wnaethon ni lwyddo i gael amodau a thelerau gwell i’r gweithlu cyfan heb unrhyw gostau ychwanegol i’r trethdalwr,” meddai Jo Stevens wedyn.

Cyfeiriodd Jo Stevens at ymrwymiad gan Tata Steel i gadw 5,000 o swyddi, oedd yn cynnwys cymal adfachu o £40,000 i bob swydd – sy’n gynnydd o 25% o gymharu â’r gytundeb flaenorol.

Soniodd hi hefyd am raglen ailhyfforddi i bawb oedd yn wynebu diswyddiadau gorfodol, gan ddweud eu bod nhw’n “derbyn blwyddyn ychwanegol o gyflogaeth gyda chyflog a chyfle i ailhyfforddi”.

“Mae’r ailhyfforddi hynny ar gyflog llawn am un mis, ac yna £27,000 bob blwyddyn i bob gweithiwr am unarddeg mis, ac mae Tata wedi cytuno i dalu’r costau hynny’n llawn,” meddai wedyn.

Dywedodd yr Aelod Seneddol Llafur, sy’n cynrychioli etholaeth Canol Caerdydd, fod Tata wedi cynnig eu pecyn diswyddo gwirfoddol “gorau erioed” yn y Deyrnas Unedig, sef 2.8 wythnos o gyflog am bob blwyddyn o waith, hyd at uchafswm o 25 wythnos.

‘Anghynaliadwy’

Dywedodd Jo Stevens, gafodd ei phenodi’n Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn dilyn etholiad cyffredinol fis Gorffennaf, fod mwy na 2,000 o bobol wedi mynegi diddordeb mewn diswyddiadau gwirfoddol ar y telerau hynny.

Gofynnodd Paul Davies i’r Ysgrifennydd Gwladol am ei honiadau “lluosog” y byddai’r diwydiant amddiffyn yn cael ei effeithio pe bai’r Deyrnas Unedig yn “ildio” ei gallu i greu dur yn sofran.

Dywedodd Jo Stevens fod llongau tanfor ‘Dreadnought’ y Llynges Frenhinol eisoes yn cael eu cynhyrchu gan ddefnyddio ffwrnais drydannol yn y Deyrnas Unedig, ac felly bod “llwybr i mewn i’r diwydiant amddiffyn”.

Pan ofynnodd y pwyllgor iddi a oes modd cadw o leiaf un ffwrnais chwyth yn weithredol dros gyfnod pontio, dywedodd ei bod hi wedi ceisio darbwyllo Tata o hynny, ond eu bod nhw’n wynebu colledion anghynaliadwy o £1m bob dydd.

Dywedodd wrth y pwyllgor fod cytundeb wedi’i lofnodi gyda darparwyr ffwrnais drydannol, a bod cynlluniau wedi’u cyflwyno gerbron Cyngor Castell-nedd Port Talbot.