Mae galwadau o’r newydd am ymchwiliad Covid penodol i Gymru.
Daw’r alwad gan y Ceidwadwyr Cymreig ar ôl i Vaughan Gething, cyn-Brif Weinidog Cymru ac Ysgrifennydd Iechyd Cymru yn ystod y pandemig, dystio fel rhan o’r ymchwiliad Covid-19 ar lefel Brydeinig fod prinder cyfarpar PPE difrifol wedi creu cryn drafferthion yng nghyfnod cynnar y pandemig.
Clywodd yr ymchwiliad ddydd Mercher (Tachwedd 20) am sawl achos o brinder cyfarpar PPE yng Nghymru, gan gynnwys gweithwyr yn gwisgo bagiau bin am eu hwynebau ac yn prynu eu gogls eu hunain.
Er nad oedd cyflenwadau PPE wedi dod i ben yn gyfan gwbl ar lefel genedlaethol, roedd Cymru’n dioddef problemau cyflenwadau difrifol.
‘Heriau difrifol’
Dywedodd Vaughan Gething y bu’n rhaid i’r Llywodraeth wynebu “heriau difrifol o ran cyflenwadau”.
Fe wnaeth e gyfaddef hefyd ei bod hi’n bosib fod gweithwyr gofal iechyd wedi gorfod trin cleifion Covid-19 gan ddefnyddio offer PPE anaddas, a’u bod nhw wedi gorfod peryglu’u hiechyd o ganlyniad.
Dywedodd fod cyfran o’r cyfarpar gafodd ei gynhyrchu yn ystod y pandemig yn hollol anaddas, ac y bu’n rhaid ei ddinistrio.
Cyfeiriodd hefyd at “dwyllwyr” oedd wedi ceisio elwa ar yr argyfwng drwy werthu offer PPE, ac am gyflenwadau’n cael eu defnyddio’n llawer cyflymach na’r disgwyl, a bod “y byd i gyd eisiau mwy”.
‘Sefyllfa hollol annerbynniol’
Wrth ymateb i sylwadau Vaughan Gething, mae Sam Rowlands, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi galw am ymchwiliad Covid-19 penodol i Gymru.
“Mae casgliadau Ymchwiliad Covid-19 y Deyrnas Unedig yn creu’r argraff o sefyllfa hollol annerbyniol i staff y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, gafodd eu peryglu o ganlyniad i fethiannau ynghylch PPE,” meddai.
“Roedd gweld cyn-Weinidog Iechyd y Blaid Lafur yn wfftio’r prinder menyg oedd yn beryg bywyd i nyrsys o ganlyniad i bentyrru niferoedd annigonol o stociau yn arbennig o siomedig.
“Mae’r hyn gafodd ei ddatgelu heddiw’n atgyfnerthu dadl y Ceidwadwyr Cymreig fod angen ymchwiliad sy’n benodol i Gymru, er mwyn craffu’n iawn ar ymateb Llywodraeth Lafur Cymru i’r pandemig.”