Mae Prif Weithredwr Cyngor Wrecsam wedi cyhoeddi ei fod am adael ei swydd yn gynt na’r disgwyl.
Pan gyhoeddodd Ian Bancroft ei ymadawiad yn wreiddiol, dywedodd y byddai’n camu o’i rôl rywbryd yn 2025.
Ond bellach, “yn dilyn sgyrsiau o fewn y Cyngor”, bydd yn rhoi’r gorau iddi ar Ragfyr 31.
Dywed y bydd hyn yn “galluogi’r newid i ddigwydd o ddechrau 2025” ac yn “caniatáu i’r Cyngor gynllunio ar gyfer y dyfodol”.
‘Dyfodol Wrecsam yn ddisglair’
“Hoffwn ddiolch i’r holl gynghorwyr, cydweithwyr agos a gweithlu ehangach y Cyngor, a phartneriaid lleol a rhanbarthol sydd wedi bod o gymorth i Wrecsam ac i mi yn ystod y cyfnod hwn yn y Cyngor,” meddai Ian Bancroft.
“Mae dyfodol Wrecsam yn ddisglair, ac rwy’n falch o fod wedi gwneud cymaint o gyfraniad yn fy nghyfnod fel Prif Weithredwr.”
Dywed y Cynghorydd Mark Pritchard, arweinydd Cyngor Wrecsam, y “bydd prosesau nawr yn dechrau i benodi Prif Weithredwr interim yn y flwyddyn newydd, cyn penodi Prif Weithredwr parhaol yn ddiweddarach yn y flwyddyn”.