Mae’r Nadolig yn gyfnod o draddodiadau; traddodiadau sydd wedi’u pasio i lawr gan ein rhieni a’r cenedlaethau o’n blaenau.

Yng nghanol y traddodiadau a’r arferion blynyddol hyn, mae gofyn weithiau am rywbeth ychydig yn wahanol.

Mae’r cyfuniad o datws melys a chnau coco yn arbennig o boblogaidd mewn bwydydd Caribïaidd a de-ddwyrain Asia. Mae gwead hufennog llaeth cnau coco yn ategu melyster y tatws gan greu cawl cyfoethog a blasus.

Fe all y pryd hwn yn aml gynnwys sbeisys a pherlysiau o’ch dewis. Peidiwch, felly, â bwyta un rôl twrci a stwffin ar ôl y llall! Dyma rysáit hynod fforddiadwy i dorri natur undonog, ailadroddus blasau’r Nadolig. Mwynhewch!


Bydd angen:

  • 2 nionyn gwyn
  • Garlleg
  • Tsili
  • Sinsir
  • Olew olewydd
  • 1kg o datws melys
  • Halen a phupur du
  • Stoc llysieuol
  • Tin o laeth cnau coco
  • Bara ffres

Coginio

Bydd angen i chi ffrïo 2 nionyn gwyn (neu un mawr) wedi’i dorri’n fân mewn tua dwy lwy fwrdd o olew olewydd.

Pan fyddan nhw’n troi’n felyn, ychwanegwch tua hanner ewin o garlleg, dau tsili coch a darn tua maint bawd o sinsir – a’r cyfan wedi’i dorri’n fan.

Ffrïwch bopeth am 2-3 munud. Yna, ychwanegwch tua 1kg o datws melys wedi’u plicio, a’u torri’n giwbiau tua 3cm.

Ychwanegwch halen a phupur du.

Ffrïwch dros wres canolig am ryw 5 munud, gan eu troi yn rheolaidd. Wedyn, ychwanegwch tua 1.5 litr o stoc llysieuol a gadael y cyfan i ffrwtian am ryw 20 munud nes bod y tatws melys yn feddal.

Ychwanegwch un tun o laeth cnau coco, blitzio’r cyfan, a’i flasu i weld bod digon o halen a phupur. Ychwanegwch ddŵr poeth os yw’r cawl yn rhy drwchus (chwaeth personol yw hyn).

Gweinwch y cawl mewn powlenni gyda chwyrlïad o olew olewydd da a bara ffres.

Mae’r sbarion yn rhewi yn dda hefyd.

Mwynhewch!