Mae plaid Reform yn bwriadu brwydro am sedd yn Sir Benfro sy’n wag yn dilyn ymddiswyddiad y cynghorydd sir lleol Andrew Edwards dros y Nadolig.

Roedd y Cynghorydd Andrew Edwards, yr aelod dros ward Prendergast nad oedd yn cynrychioli plaid, wedi bod yn gynghorydd Ceidwadol yn y gorffennol, ond fe adawodd yn 2023 pan ddaeth honiadau difrifol ynghylch sylwadau hiliol am ‘gaethweision’ i’r amlwg, ar ôl i recordiad honedig ohono’n dweud y dylai fod gan bob dyn gwyn gaethweision du.

Yn dilyn yr honiadau, fe wnaeth Andrew Edwards, sy’n gyn-ynad a llywodraethwr ysgol, dynnu ei enw’n ôl o’r grŵp gwleidyddol a chyfeirio’i hun at yr ombwdsmon.

Pan gafodd ei holi gan y Gwasanaeth Gohebu ar Ddemocratiaeth Leol, wnaeth e ddim cadarnhau na gwadu’r honiadau.

Yn hytrach, fe wnaeth e gadarnhau datganiad ysgrifenedig blaenorol oedd yn dweud ei fod yn “ymwybodol o’r fath honiadau difrifol sy’n cael eu gwneud yn fy erbyn”.

“Dyna pam dw i wedi cyfeirio fy hun at yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer gwerthusiad annibynnol,” meddai.

Ymddiswyddiad

Ers hynny, roedd y Cynghorydd Andrew Edwards wedi ymddiswyddo dros y Nadolig, gan ddweud bod ei swydd yn “anghynaladwy” o ganlyniad i “faterion teuluol”.

Mae’r Prif Weithredwr William Bramble bellach wedi cael ei hysbysu ynghylch swydd wag cynghorydd sir ar gyfer y ward.

Dywed Stuart Marchant o blaid Reform, oedd wedi sefyll fel ymgeisydd yn yr etholiad cyffredinol y llynedd ar gyfer sedd newydd Canol a De Sir Benfro yn San Steffan, fod y blaid yn gobeithio cyflwyno ymgeisydd.

“Mae Reform UK yn paratoi i frwydro’r sedd hon,” meddai’r ymgeisydd ddaeth yn drydydd y tu ôl i Lafur a’r Ceidwadwyr yn yr etholiad.

“Bydd angen yr holl gefnogaeth arnom y gallwn ei chael gan y rhai sy’n byw o fewn ardal Cyngor Sir Penfro, er mwyn gwneud cais brys i gynnal etholiad.

“I unrhyw un sy’n dymuno cefnogi’r ymgyrch neu gael eu hystyried i sefyll, cysylltwch â mi fel y gallaf sicrhau bod yr holl unigolion cymwys yn cael eu hystyried.”

Ers hynny, drwy law Stuart Marchant, dywed Reform fod ganddyn nhw “ddau ymgeisydd posib, ac yn disgwyl cadarnhau’r dewis yr wythnos nesaf”.