Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi darganfod math newydd o gell-T gwrthganser, a’r gobaith yw ei ddefnyddio i hybu ein system imiwnedd i fynd i’r afael â chelloedd canser.
Mae erthygl yn y Journal of Clinical Investigation heddiw (dydd Iau, Ionawr 2) yn nodi bod gan bawb y gallu i greu celloedd-T gwrthganser sy’n adnabod celloedd canser drwy foleciwl o’r enw MR1 – protin sy’n chwarae rhan bwysig wrth ganiatáu i’r system imiwnedd ganfod celloedd sy’n cael eu heintio gan ficrobau.
Gallai’r is-deip newydd o gell-T alluogi ein system imiwnedd ein hunain i drin canser gan ddefnyddio imiwnotherapi neu frechiadau.
Mae’r ymchwilwyr yn credu bod y math hwn o gell-T yn gallu synhwyro gwahaniaethau mewn metaboledd sy’n digwydd pan fydd celloedd yn mynd yn ganseraidd.
Astudiaeth
Yn rhan o’r astudiaeth newydd, chwiliodd yr ymchwilwyr am gelloedd-T fyddai’n gallu ymateb i gelloedd canser drwy brotein MR1, ond heb ymosod ar gelloedd iach normal.
Roedd ganddyn nhw samplau poblogaethau o gelloedd-T 10 rhoddwr iach a chlaf â lewcemia myeloid acíwt.
Roedd modd iddyn nhw ysgogi’r celloedd-T aeth ati i ladd y celloedd canser, drwy foleciwl MR1 gwaed pob rhoddwr.
Fe wnaethon nhw ddarganfod fod gan y celloedd-T gwrthganser hyn gan roddwyr wahanol nodweddion penodol, oedd yn awgrymu eu bod yn adnabod yr un moleciwl ag sydd gan MR1 ar fathau gwahanol o gelloedd canser, gan ddod o hyd iddyn nhw a’u dinistrio.
Mae’n rhaid i’r moleciwl hwn fod yn absennol neu gael ei leihau ar gelloedd iach, gan ganiatáu iddyn nhw gael eu hanwybyddu.
Canlyniadau yn ‘berthnasol i’r boblogaeth drwyddi draw’
Pwysleisia’r Athro Andrew Sewell o Sefydliad Ymchwil er Imiwnedd Systemau Prifysgol Caerdydd a’r Ysgol Meddygaeth bwysigrwydd eu hastudiaeth a bod eu canlyniadau yn “berthnasol i’r boblogaeth drwyddi draw”, gan fod gan bawb y gallu i greu’r is-deip newydd o gell-T gwrthganser.
Dywed Dr Garry Dolton o Is-adran Heintiau ac Imiwnedd Prifysgol Caerdydd nad ydyn nhw’n deall pam mai dim ond mewn lleiafrif bach o gleifion canser mae’r celloedd hyn yn cael eu hysgogi hyd yn hyn.
“Gallai’r ffaith fod gan bawb y celloedd T hyn, a’u bod yn debygol o adnabod yr un marciwr moleciwlaidd ar gelloedd canser, gynnig llwybrau diddorol i’w harchwilio o ran a allwn ni ddefnyddio brechlyn i’w hysgogi i ladd canser,” meddai.
Ychwanega Dr Hannah Thomas o’r un adran y bydd angen “arbrofion pellach i gadarnhau’r arsylwadau cynnar hyn”, gan nad ydyn nhw’n siŵr o “natur y cyfansoddyn metabolaidd” ar hyn o bryd.
“Bydd nodi’r cyfansoddyn mae MR1 yn ei gyflwyno i’r celloedd T hyn, gan ganiatáu iddyn nhw ladd celloedd canser tra’n aros yn anadweithiol i gelloedd iach, yn gam pwysig nesaf.
“Y cam pwysig nesaf fydd canfod y cyfansoddyn mae MR1 yn ei gyflwyno i’r celloedd-T hyn ac sy’n caniatáu iddyn nhw ladd celloedd canser heb ymosod ar gelloedd iach.”