Mae adroddiadau bod ymgyrchwyr yn Iwerddon yn pwyso ar lywodraeth y wlad i ddarparu rhagor o gartrefi yn y Gaeltacht, neu gadarnle’r Wyddeleg, er mwyn ceisio achub yr iaith.

Mae’r mudiad BÁNÚ wedi ysgrifennu at y Tánaiste Micheál Martin, yn rhinwedd ei swydd yn arweinydd ar blaid Fianna Fáil, a’r Taoiseach Simon Harris, yn arweinydd ar blaid Fine Gael, yn egluro bod y prinder tai i siaradwyr Gwyddeleg yn ei chadarnleoedd yn rhoi dyfodol yr iaith yn y fantol.

Mae’r ddeiseb ddwyieithog yn galw am sicrwydd y bydd mesurau yn cael eu cynnwys yn Rhaglen y Llywodraeth er mwyn mynd i’r afael â’r sefyllfa, gan bwysleisio nad yw dyfodol hirdymor yr iaith yn ddiogel yn y Gaeltacht.

Mae hefyd yn cydnabod ymrwymiad y ddwy blaid i geisio datrys y sefyllfa, ond yn dweud bod yr addewidion yn rhai gwag oni bai bod ymrwymiad cadarn yn rhaglen y llywodraeth i roi pwerau statudol ac adnoddau i’r awdurdodau ddarparu tai lle bo angen.