Bydd grwpiau ledled Cymru yn dod ynghyd i sefyll mewn undod â gweithwyr iechyd a meddygon Gaza ddydd Sadwrn (Ionawr 4).

Dros y pymtheg mis diwethaf, mae dros 1,000 o weithwyr iechyd Gaza wedi’u lladd yn sgil ymosodiadau gan fyddin Israel.

Yn ôl adroddiadau, cafodd 50 o bobol eu lladd mewn ymosodiad ar Ysbyty Kamal Adwan yng ngogledd Gaza ddiwedd 2024.

Ddiwedd mis Rhagfyr, fe oresgynnodd lluoedd Israel yr ysbyty gan gymryd 240 o bobol, gan gynnwys gweithwyr gofal iechyd a chleifion, yn wystlon.

Yn eu plith roedd Dr Hussam Abu Safia, Cyfarwyddwr Meddygol yr ysbyty.

Cafodd ei fab ei ladd gan daflegryn Israelaidd fis Hydref.

Yn ôl llygad-dystion a mudiadau dyngarol, cafodd Dr. Abu Safia ei drosglwyddo i wersyll caethiwo Sde Teiman, lle mae carcharorion yn dioddef tymereddau rhewllyd, cosbi systematig a chaethiwo mewn cewyll tebyg i rai ar gyfer anifeiliaid.

‘Heddwch a chyfiawnder’

Mae Amnest Rhyngwladol yn galw ar aelodau seneddol Cymru yn San Steffan ac Aelodau’r Senedd yng Nghaerdydd i ddod i’r ralïau i fynnu bod Dr. Abu Safia, ei gydweithwyr a’i gleifion yn cael mynd yn rhydd.

Dywed llefarydd ar ran y grŵp eu bod yn galw ar David Lammy, Ysgrifennydd Tramor y Deyrnas Unedig, i fynnu bod Israel yn rhyddhau Dr Hussam Abu Safia a’r gweithwyr iechyd eraill “ar unwaith”.

“Mae’n bwysicach nag erioed ar ddechrau 2025 fod ein llais dros heddwch a chyfiawnder i bobol Palesteina yn cael ei glywed yn eglur,” meddai.

Bydd y grwpiau yn cyfarfod yn:

  • Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin am 11yb
  • Ysbyty Gwynedd, Bangor am 2yp
  • Ysbyty Maelor, Wrecsam am 2yp
  • Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan am 2yp
  • Ysbyty Bronglais, Aberystwyth am 2yp
  • Ysbyty’r Grange, Cwmbrân am 2yp
  • Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Tonysguboriau am 2yp