Mae Cyngor Sir Powys wedi dechrau ymgynghoriad ar wasanaethau bws y sir.

Bydd yr ymgynghoriad ar-lein yn para chwe wythnos, gan roi cyfle i drigolion y sir ddweud eu dweud.

Mae’n dilyn ymarfer ymgysylltu cychwynnol ar-lein, a chyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu gafodd eu cynnal ledled y sir er mwyn ceisio adborth ar y rhwydwaith bysiau lleol presennol a dymuniadau ac anghenion defnyddwyr bysiau.

Gan ddefnyddio’r adborth a’r wybodaeth hon o gyfarfodydd gyda darparwyr bysiau a rhanddeiliaid eraill, cafodd cyfres o amserlenni bysiau diwygiedig ei datblygu.

Mae’r ymgynghoriad yn rhoi’r cyfle i bobol chwilio am yr amserlenni diweddaraf hyn a’u harchwilio yn eu hardaloedd dewisol.

Er enghraifft, mae modd i bobol edrych ar y holl amserlenni o fewn yr ardal lle maen nhw’n byw, gweithio neu’n cymdeithasu.

Rhwydwaith “effeithiol ac effeithlon” yw’r nod

“Allwch chi helpu i lunio dyfodol Rhwydwaith Bysiau Lleol Powys? Hoffwn glywed gan breswylwyr a defnyddwyr bysiau am yr amserlenni newydd arfaethedig,” meddai’r Cynghorydd Jackie Charlton, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Bowys Wyrddach.

“Mae darparu rhwydwaith bysiau lleol effeithiol ac effeithlon ym Mhowys yn heriol oherwydd maint y sir a’r dwysedd poblogaeth isel y tu allan i bum tref graidd y Trallwng, y Drenewydd, Llandrindod, Aberhonddu ac Ystradgynlais.

“Rydym yn awyddus i weithio gyda defnyddwyr bysiau presennol a darpar ddefnyddwyr bysiau i ddeall y rhwystrau y maent yn eu hwynebu wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a chanfod cyfaddawdau ac atebion i wella’r amserlenni a phrofiad teithwyr.

“Rhowch ychydig o funudau a rhannwch eich meddyliau.”