Wrth gofnodi “dwyster canolig” o achosion o’r ffliw, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud eu bod nhw’n disgwyl cynnydd pellach dros yr wythnosau nesaf.
Mae sawl ysbyty bellach yn gofyn i ymwelwyr wisgo mwgwd dros eu hwynebau er mwyn ceisio atal lledaenu heintiau.
Gyda pharatoadau ar y gweill ar gyfer y pwysau fydd ar ysbytai a gwasanaethau ambiwlans ledled Cymru, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog y rhai sy’n gymwys i dderbyn brechlyn ffliw i ystyried manteisio ar y cynnig.
Mae golwg360 wedi gofyn am y ffigurau ffliw diweddaraf ganddyn nhw.
“Byth rhy hwyr i gael eich brechu”
Yn ôl Wendi Shepherd, y Dirprwy Gyfarwyddwr Diogelu ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae mynychu apwyntiad brechlyn ffliw yn “un o’r dulliau mwyaf effeithiol o amddiffyn rhag mynd yn ddifrifol wael”.
“Gall ffliw fod yn salwch difrifol, yn enwedig i bobol hŷn a phobol agored i niwed, a dyna pam ei bod yn bwysig bod yn effro i risgiau ffliw.
“Hyd yn oed os ydych wedi methu apwyntiad, nid yw byth yn rhy hwyr i gael eich brechu.”
Masgiau wyneb
Mae sawl ysbyty yn y de, megis Ysbyty Cwm Taf Morgannwg, Ysbyty Aneurin Bevan ac Ysbyty Hywel Dda, wedi cyhoeddi bod gofyn i ymwelwyr wisgo mwgwd er mwyn helpu i atal lledaeniaid y ffliw dros yr wythnosau nesaf.
Mewn datganiad ar Ragfyr 31, dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan fod disgwyl i “bob ymwelwr, claf ac aelod o staff wisgo masgiau wyneb wrth fynd mewn i’n holl safleoedd ysbytai”.
Mae’r Bwrdd Iechyd hefyd yn gofyn nad oes mwy nag un oedolyn arall yn ymweld â’r ysbyty gyda chlaf.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda hefyd yn gofyn i bob ymwelydd wisgo mwgwd cyn ymweld â rhai wardiau neu adrannau, ac yn dweud na ddylai unrhyw un ymweld ag ysbytai yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion na Sir Benfro oni bai eu bod yn “rhydd o unrhyw symptomau tebyg i ffliw neu unrhyw salwch neu ddolur rhydd”.