Mae prosiect Cyngor Powys i adnewyddu atyniadau twristaidd Trefyclo bellach wedi’i gwblhau.

Mae’r dre’n gartref i rai o weddillion amlycaf Clawdd Offa, y ffin hynafol rhwng teyrnas Powys a theyrnas Eingl-Sacsonaidd Mersia yng nghanolbarth Lloegr.

Mae hefyd yn gyrchfan ar hyd llwybr cerdded poblogaidd Llwybr Clawdd Offa.

Diolch i grantiau gafodd eu rhoi gan Lywodraeth Cymru, mae Cyngor Powys wedi llwyddo i uwchraddio Parc Clawdd Offa’r dref, fydd yn ei wneud yn fwy hygyrch ac yn fwy cynhwysol.

‘Un o lwybrau mwyaf hanesyddol Cymru’

Mae Clawdd Offa yn un o gyrchfannau archeolegol pwysicaf Cymru, yn enwedig wrth olrhain hanes y ffin.

Mae’n cynnig cipolwg ar berthynas gyntefig Cymry a Saeson yr oesoedd canol cynnar – cyfnod sydd, fel arall, yn brin iawn ei dyst.

Mae’n ymddangos i’r Clawdd gael ei godi dan orchymyn y Brenin Offa yn yr wythfed ganrif, er mwyn gwarchod teyrnas Mersia rhag y Cymry oedd yn byw i’r gorllewin.

Roedd rhannau o’r warchodfa hon yn ymestyn o Brestatyn yn y gogledd yr holl ffordd i Gas-gwent yn y de, ac mae’n amlwg yn ddylanwad pwysig ar lunio ffin bresennol Cymru a Lloegr.

Mae Cyngor Powys a Llywodraeth Cymru’n credu ei bod hi’n bwysig fod mynediad gan ymwelwyr at atyniad hanesyddol mor bwysig.

Dywed Rebecca Evans, Ysgrifennydd Economi a Chynllunio Cymru, fod Clawdd Offa yn “un o lwybrau mwyaf hanesyddol Cymru”, a bod y Llywodraeth “am sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau’r golygfeydd a’r hanes gwych mae’r llwybr yn ei ddarparu”.

Gwaith adnewyddu

Daw’r cyllid gan Lywodraeth Cymru yn rhan o brosiect Y Pethau Pwysig, sy’n cynnig £5m i seilwaith twristiaeth ar raddfa fach ledled Cymru.

Yn ôl Rebecca Evans, nod cynllun Y Pethau Pwysig yw “ariannu prosiectau bach sy’n cael effaith fawr ar brofiad ymwelwyr ac i’r cymunedau lleol”.

Cafodd £200,000 o’r cyllid hwn ei wobrwyo i Gyngor Powys.

Wedi i Gyngor Powys ymgynghori’n agos â Cadw, fe wnaed gwerth £90,000 o waith er mwyn gwneud Clawdd Offa yn Nhrefyclo yn fwy hygyrch i ymwelwyr.

Mae hyn yn cynnwys clirio coed a llystyfiant, creu llwybr dros y gwrthglawdd canoloesol nad yw’n achosi difrod, a gosod rheiliau llaw a llwybr hollgynhwysol newydd y tu ôl i Ganolfan Clawdd Offa.

Mae cysgodfan bren a phaneli dehongli hefyd wedi’u hadeiladu yn agos at y clawdd, ac mae’r toiledau y tu allan i’r ganolfan ymwelwyr wedi’u hadnewyddu.

Dywed David Selby, Aelod Cabinet Cyngor Powys ar gyfer prosiect Powys Fwy Llewyrchus, ei fod yn “gobeithio y bydd llawer mwy o bobol nawr yn cael eu hannog i ddarganfod Clawdd Offa yn Nhrefyclo” o ganlyniad i’r gwaith adnewyddu.