Wrth ymateb i neges Blwyddyn Newydd y Prif Weinidog, mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod angen gwneud llawer mwy i wireddu uchelgais y Llywodraeth o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae’r Gymdeithas wedi gadael carden Calan yn swyddfa Eluned Morgan yn Hwlffordd, gan dynnu sylw at y ffaith mai 25 mlynedd yn unig sydd ar ôl er mwyn bwrw’r targed, a bod angen gweithredu ar frys.
Yn ôl Joseff Gnagbo, dydy’r Llywodraeth “ddim yn cymryd ei tharged ei hunan o ddifri”.
“Mae canlyniadau Cyfrifiad 2021 ac ymateb y Llywodraeth iddyn nhw’n dangos hynny,” meddai.
“Mae’r Llywodraeth wedi gosod y targed yma ers 2016, ond ar hyd yr amser ers hynny dydyn ni ddim wedi gweld y gweithredu sydd ei angen i’w gyrraedd.
“Cwympodd nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg ar draws Cymru, yn enwedig yn ei chadarnleoedd traddodiadol.
“Fel mae pethau, mae cyfleoedd mawr yn cael eu colli – mae Bil y Gymraeg ac Addysg yn cael ei gyflwyno i’r Senedd yn hwyrach yn y mis, ond fydd e ddim yn rhoi addysg Gymraeg i bawb.
“Ers ymrwymo yn gynnar yn 2024 i greu corff darlledu i baratoi’r ffordd ar gyfer datganoli grymoedd dros ddarlledu does dim byd wedi digwydd.
“Doedd y papur gwyn ar dai gafodd ei gyhoeddi ym mis Tachwedd ddim yn rhoi unrhyw hawliau i bobol i gartref; a does dim disgwyl ymateb i adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, a gyhoeddwyd ym mis Awst, tan y gwanwyn.”
Blaenoriaethau
Wrth alw am weithredu ar frys, mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar y Llywodraeth i flaenoriaethu’r canlynol:
- cryfhau Bil y Gymraeg ac Addysg yn sylweddol er mwyn rhoi addysg Gymraeg i bawb
- sefydlu Corff Darlledu a Chyfathrebu ar fyrder er mwyn paratoi’r ffordd at ddatganoli darlledu, fel sydd wedi ei addo
- cynllunio i gyflwyno Deddf Eiddo er mwyn galluogi pobol i gael cartref yn eu cymunedau
- gweithredu argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg a chreu Strategaeth Ardaloedd Gwledig er mwyn diogelu ac adfer cymunedau Cymraeg
- ymestyn hawliau clir drwy ddeddfwriaeth i bobol allu defnyddio’r Gymraeg ym mhob rhan o’u bywydau. Yn arbennig, trwy ymestyn y rhwymedigaeth i’r sector preifat ddarparu gwasanaeth Cymraeg
- ymestyn y ddarpariaeth iechyd a gofal yn Gymraeg trwy sicrhau gweithredu deddfwriaeth gan gynnwys Strategaeth Mwy na Geiriau yn effeithiol
- datblygu defnydd y Gymraeg ym maes technoleg
- sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei phrif ffrydio fel iaith gwaith yn y gwasanaeth sifil ac mewn gweithluoedd eraill.
“Er bod amser yn brin, dydy hi ddim yn rhy hwyr,” meddai Joseff Gnagbo wedyn.
“Os ydy’r Llywodraeth o ddifri am y Gymraeg, rhaid gweithredu yn flaengar ar draws nifer o feysydd a gwneud yr iaith yn flaenoriaeth.
“Bydd ymgyrchu Cymdeithas yr Iaith yn dwyn y Llywodraeth hon i gyfrif, ac rydyn ni’n galw ar ein holl gefnogwyr i ymuno yn y gwaith ar ddechrau 2025.”
‘Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd’
“Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd ac rydym wedi ymrwymo i gyrraedd ein targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu defnydd dyddiol o’n hiaith erbyn 2050,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Byddwn yn gwneud hyn drwy barhau i weithio ar draws y Llywodraeth a thu hwnt i flaenoriaethau Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru), i gynnig gwersi Cymraeg am ddim i filoedd o bobol ifanc a’r gweithlu addysg, i gynnal ein cymunedau Cymraeg, i gynyddu defnydd iaith ym mhob ardal a chyd-destun ac i ddatblygu technoleg iaith.”