Mae’r swyddfa dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am eira trwm i’r rhan fwyaf o Gymru dros y penwythnos.
Bydd y rhybudd yn dod i rym am 12 o’r gloch nos Sadwrn (Ionawr 4), ac mae disgwyl iddo barhau tan ddydd Llun (Ionawr 6).
Bydd y rhybudd yn berthnasol i Gymru gyfan, ac eithro rhannau o Ynys Môn.
Gyda disgwyl i hyd at 30cm o eira ddisgyn ar dir uchel, mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio bod siawns y bydd rhai yn wynebu colli eu cyflenwadau pŵer, ac y bydd gwasanaethau eraill yn cael eu heffeithio.
Mae disgwyl oedi hefyd ar y ffyrdd, ynghyd ag oedi neu ganslo teithiau trên neu awyr.
Dywed llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd ei bod yn bur debygol y bydd y rhybuddion yn amrywio dros y dyddiau nesaf, oherwydd ansicrwydd ynglŷn â lle yn union y bydd hi’n bwrw eira.