Mae nifer o gyfleoedd newydd i gig oen Cymru yn y farchnad Foslemaidd ryngwladol a domestig, yn ôl arbenigwr o’r diwydiant.

Fe wnaeth Dr Awal Fuseini annerch cynrychiolwyr o sector amaeth Cymru yng nghynhadledd flynyddol Hybu Cig Cymru yn Llanelwedd yn ddiweddar.

“Gan edrych ar y Deyrnas Unedig yn unig, mae 3.9m o Fwslimiaid ac mae ein hymchwil yn awgrymu bod 80% ohonyn nhw yn bwyta cig oen o leiaf unwaith yr wythnos,” meddai Uwch Reolwr Sector Halal y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth.

“Mae hynny’n cymharu â 6% o bryniannau unwaith-yr-wythnos gan y cyhoedd yn y Deyrnas Unedig.

“Wrth i’r defnydd o gig oen leihau yn gyffredinol ymysg y cyhoedd, mae’n cynyddu o fewn y gymuned Foslemaidd – felly gallwch weld bod y drws ar agor i gynyddu gwerthiant cig oen.”

Prif farchnadoedd Mwslimaidd y byd

Yn ystod ei anerchiad, siaradodd Dr Awal Fuseini am y prif farchnadoedd Mwslimaidd, o’r gwledydd Ewropeaidd, a Ffrainc yn bennaf, i’r Unol Daleithiau a Saudi Arabia.

“Heblaw am gael eu tan-ecsbloitio hyd yn hyn gan gynnyrch o Brydain sydd wedi’i allforio, mae’r marchnadoedd yma i gyd yn tyfu mewn maint,” meddai.

Dywedodd fod angen “cymryd y farchnad yn y Dwyrain Canol o ddifrif”.

“Mae’n farchnad bremiwm,” meddai.

“Maen nhw’n talu mwy am y cig gorau na gwledydd eraill – mewn rhai achosion, deirgwaith yn fwy.”

Teimla fod cyfleoedd di-oed ar gael yn y farchnad ddomestig.

“Mae hynny oherwydd bod gan broseswyr yn y Deyrnas Unedig y cyfle i fanteisio i’r eithaf o’u helw achos mae gan y cwsmer Mwslimaidd ddiddordeb mewn cynnyrch o bob rhan o’r carcas,” meddai.

Cwmnïau annibynnol, nid manwerthwyr mawr

Yn ogystal, nododd nifer o wyliau crefyddol Mwslimaidd sy’n bwysig i farchnad y Deyrnas Unedig, gan fynegi syndod mai’r llwybr at ddefnyddwyr ar hyn o bryd yw drwy gwmnïau annibynnol ac nid drwy’r manwerthwyr mawr.

“Os edrychwch ar ble mae cig oen Halal yn cael ei werthu, mae’r mwyafrif ohono’n dod o siop y gornel neu gigydd annibynnol,” meddai.

Dydy’r cyflenwad ddim yn broblem, meddai, gan fod tua 70% o gyflenwad y Deyrnas Unedig o gig oen yn ateb gofynion Halal.

Ond, er mwyn ateb galw’r cwsmeriaid yn well, mae mwy i’w wneud i dynnu sylw at y sicrwydd sy’n dod gyda’r cynnyrch, meddai.

“Mae’n rhaid i’r gadwyn gyflenwi wneud yn siŵr bod y sicrwydd o ran cyflenwad yn cwrdd â disgwyliadau’r gymuned Foslemaidd ac, yn enwedig yn lle mae’r cwsmer iau yn prynu, ei fod yn cwrdd â’r gofynion amgylcheddol sy’n bwysig iawn iddyn nhw.”

Dywed ei fod yn teimlo mai’r cyfle unigol mwyaf fyddai’r farchnad yn Saudi.

“Dyma’r farchnad arfaethedig fwyaf oherwydd twristiaeth a chyfoeth yn y gymuned,” meddai.

“Mae Cig Oen Cymru’n cael ymateb da.

“Mae e mewn gwesty pum seren yno’n barod, ac mae’n pasio’r trothwy ansawdd mwyaf uchel.”