Wrth dalu teyrnged i’r “cymeriad mawr” John Prescott, sydd wedi marw’n 86 oed, dywed Ron Davies nad oedd cyn-Ddirprwy Brif Weinidog y Deyrnas Unedig “byth yn siarad am Gymru”.

Cafodd Prescott, oedd yn Aelod Seneddol Llafur yn Hull am fwy na deugain mlynedd, ei eni ym Mhrestatyn.

Er y cafodd John Prescott ei eni yng Nghymru i fam Gymreig, doedd Ron Davies “byth wedi cael trafodaethau ynglŷn â Chymru” gydag e.

“Mi roedd e’n gefnogwr o ddatganoli, ond doedd e ddim yn ryw fath o eiriolwr.”

Symudodd i Loegr pan oedd yn bedair oed, ac roedd yn gefnogol yn ystod ei yrfa wleidyddol i’r syniad o ragor o ddatganoli i ranbarthau Lloegr.

“Mi roedd ganddo fe lawer mwy o ddiddordeb tra roeddwn i yn y Cabinet Cysgodol efo rhanbarthau Lloegr,” meddai Ron Davies wrth golwg360.

“Roedd e’n Aelod Seneddol dros Hull, felly roedd e’n gweld ei hun fel rhyw fath o Aelod Seneddol dros ogledd Lloegr.

“A phan dw i’n dweud ein bod ni byth yn siarad am Gymru, dyw hyn ddim yn rhyw fath o waharddiad ar y pwnc mewn trafodaethau.

“Yn hytrach, roedd e’n ymwneud mwy â’r ffaith nad oedd ei wleidyddiaeth na’i ddiddordebau gwleidyddol yn ymwneud ryw lawer â Chymru.”

‘Marmite’

Fel gwleidydd, roedd John Prescott yn sicr yn hollti barn, ond mae Ron Davies yn ei gofio fel dyn cymdeithasol hefyd.

“Roedd e’n gymeriad marmite, mewn llawer o ffyrdd,” meddai.

“Roeddwn i gyda fe yn Nhŷ’r Cyffredin yr holl amser roeddwn i yno.

“Ac yn sicr, roedd ganddo fe ei glwb o edmygwyr a chefnogwyr o fewn y Blaid Lafur Seneddol, yn enwedig pobol o gefndir dosbarth gweithiol tebyg.”

Er bod ei gefnogwyr yn bobol oedd yn rhannu ei feddylfryd, roedd y parch ato’n ymestyn ar draws y blaid a thu hwnt, meddai.

“Roedd e’n sicr yn un o’r bobol yma fyddech chi’n gallu mynd a chymdeithasu gyda fe yn y bar neu yn yr ystafell de.”

‘Bob amser yn barod i drafod gwleidyddiaeth’

Er nad yw Ron Davies yn ei ystyried ei hun yn rhan o “gylch” John Prescott, dywed y byddai “bob amser yn barod i stopio ac i drafod gwleidyddiaeth”.

“Roedd e eisiau bod, dw i’n meddwl, yn ryw fath o amddiffynnwr o dreftadaeth dosbarth gweithiol a’r undebau o fewn y blaid,” meddai.

“Es i i mewn i wleidyddiaeth yn 1983, yn ystod amser o newid o fewn gwleidyddiaeth Prydain.

“Yn y cyfnod ar ôl y Rhyfel, roedd yr undebau yn gallu cael eu cymryd yn ganiataol fel cefnogwyr Llafur, ond roedd hyn i gyd yn dechrau newid.

“Roedd hyn yn sialens i’r Blaid Lafur a dw i’n meddwl, mewn nifer o ffyrdd, fod Prescott yn deall hynny.”

Dolen gyswllt rhwng Tony Blair a’r asgell chwith

Yn ôl Ron Davies, roedd John Prescott yn rhan allweddol o’r cysylltiad rhwng Llafur Newydd Tony Blair a’r asgell chwith draddodiadol.

Yn dilyn marwolaeth John Smith yn 1994, fe ymgeisiodd John Prescott am arweinyddiaeth y Blaid Lafur.

Er nad oedd e ymhell iawn i’r chwith o ran ei ddaliadau gwleidyddol, roedd e’n sicr ymhellach i’r chwith na’r arweinydd.

“Mewn nifer o ffyrdd, roedd e fel angor,” meddai Ron Davies.

John Prescott, cyn-ddirprwy Brif Weinidog Llafur

Teyrngedau o Gymru i’r “cawr gwleidyddol” John Prescott

Cafodd y cyn-Ddirprwy Brif Weinidog Llafur ei eni ym Mhrestatyn