Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd am eira a rhew, fydd yn ei le tan 10 o’r gloch fore heddiw (dydd Gwener, Tachwedd 22).
Bu’n rhaid i ddegau o ysgolion yn y gogledd gau eu drysau wrth i’r tywydd garw barhau, ac maen nhw’n parhau i fonitro’r sefyllfa.
Mae disgwyl oedi i deithwyr ar y ffyrdd a’r rheilffyrdd, ac mae pobol yn cael eu rhybuddio i gymryd gofal.
Mae disgwyl gwyntoedd a glaw am weddill yr wythnos, ond bydd hi’n fwynach dros y penwythnos.