Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gefnogi’r warant sydd wedi’i chyhoeddi i arestio Prif Weinidog a gwleidyddion eraill Israel.

Y Llys Troseddol Rhyngwladol sydd wedi cyhoeddi’r warant i arestio Benjamin Netanyahu, y cyn-Weinidog Amddiffyn Yoav Gallant, ac Al-Masri, arweinydd Hamas.

Mae’r tri wedi’u cyhuddo o droseddau rhyfel, ar ôl i farnwyr benderfynu ei fod yn gasgliad “rhesymol” eu bod nhw’n “gyfrifol” am droseddau rhyfel a throseddau yn erbyn y ddynoliaeth.

Mae Israel a Hamas yn gwadu’r honiadau.

Mae warant hefyd wedi’i chyhoeddi i arestio Mohammed Deif, aelod o Hamas, ond mae Israel yn dweud iddo fe gael ei ladd mewn cyrch awyr yn Gaza ym mis Gorffennaf.

Mae Benjamin Netanyahu yn dweud bod agwedd y Llys Troseddol Rhyngwladol yn “wrth-Semitaidd”.

Mae’r Unol Daleithiau hefyd yn gwrthod cydnabod y dyfarniad, er bod nifer o wledydd Ewropeaidd yn dweud eu bod nhw’n ei barchu.

‘Her enfawr’

“Mae warantau’r Llys Troseddol Rhyngwladol i arestio Benjamin Netanyahu, Prif Weinidog Israel, y cyn-Weinidog Amddiffyn Yoav Gallant, ac Al-Masri, arweinydd Hamas, yn peri her enfawr i’r sawl sy’n honni eu bod nhw’n cefnogi trefn ryngwladol sy’n seiliedig ar reolau,” meddai Liz Saville Roberts.

“Mae hyn yn cynnwys Llywodraeth y Deyrnas Unedig, y mae’n rhaid iddyn nhw gefnogi penderfyniad y Llys Troseddol Rhyngwladol yn llawn.

“Hefyd, rhaid i’r Deyrnas Unedig gyflawni ei rhwymedigaethau rhyngwladol eraill er mwyn atal hil-laddiad, drwy roi’r gorau i’r holl werthiant arfau i Israel, a rhoi’r gorau i bob cefnogaeth ar gyfer meddiannu Tiriogaethau Palesteinaidd yn anghyfreithlon.”