Mae disgwyl i berchnogion ail gartrefi ac eiddo gwag Caerffili dderbyn llythyr yn fuan i’w rhybuddio nhw am gynnydd yn y dreth gyngor.
Cytunodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gynharach eleni i gyflwyno premiwm treth gyngor ar eiddo o’r fath.
Nod y polisi yw dod ag eiddo heb eu defnyddio, neu rai nad ydyn nhw’n cael eu defnyddio’n ddigonol, yn ôl i ddefnydd – gyda miloedd o bobol ar restr aros y Cyngor am rywle i fyw.
Fis Mawrth eleni, fe wnaeth y Cyngor gefnogi costau treth gyngor ychwanegol, gan ddyblu biliau perchnogion ail gartrefi yn y bôn.
Fe wnaeth cynghorwyr hefyd gefnogi mesur i gyflwyno graddfa symudol ar gyfer premiwm treth gyngor ar gyfer perchnogion eiddo gwag hirdymor.
Bydd y rheiny sy’n berchen ar eiddo fu’n wag ers dros ddwy flynedd yn talu dwywaith y dreth gyngor arferol ar gyfer yr eiddo, ac fe fydd yn treblu yn achos eiddo fu’n wag ers dros dair blynedd, ac yn codi i bedair gwaith yn fwy ar gyfer eiddo fu’n wag ers pum mlynedd neu fwy.
Mae’r Cyngor eisoes wedi amcangyfrif fod 885 o eiddo gwag hirdymor yn y sir, gan gynnwys 264 sydd allan o ddefnydd ers pum mlynedd neu fwy.
‘Gwastraffu tai gwerthfawr’
“Bydd cynyddu’r dreth gyngor ar eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi’n annog y perchnogion i ddod â’u heiddo yn ôl i ddefnydd er lles y gymuned leol, a pheidio gwastraffu tai gwerthfawr,” meddai’r Cynghorydd Shayne Cook, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros dai.
“Rydyn ni’n ysgrifennu at bawb sydd wedi cael eu heffeithio er mwyn sicrhau eu bod nhw’n cael digon o rybudd ymlaen llaw o’r newidiadau fydd yn cael eu cyflwyno fis Ebrill nesaf.”
Mae’r Cyngor wedi blaenoriaethu gwneud eiddo heb eu defnyddio’n flaenoriaeth, gan sefydlu Tîm Cartrefi Gwag er mwyn annog perchnogion i ddod ag adeiladau’n ôl i ddefnydd drwy grantiau a chefnogaeth amrywiol.
Lle bo hynny’n methu, gall y tîm hefyd fynd ar ôl opsiynau gorfodi.
Mae’r elusen dai a sefydliad cyngor Shelter Cymru wedi disgrifio eiddo gwag fel rhywbeth sy’n “golygu gwastraff, costau ariannol a cholli cyfle wrth ddarparu tai fforddiadwy mae mawr eu hangen” yng Nghymru.
Gall eu presenoldeb fod yn “staen” ar gymunedau ac arwain at sgil effeithiau megis gollwng gwastraff, fandaliaeth, a dibrisio tai cyfagos.
Ymgynghoriad
Yng Nghaerffili, mae’r Cyngor wedi dweud eisoes y byddai eu premiwm treth gyngor yn rhoi “cymhelliant” i berchnogion achub y blaen a cheisio’u cefnogaeth, yn hytrach na chael eu bwrw gan filiau sylweddol.
Ond yn ystod ymgynghoriad, dangosodd barn y cyhoedd elfen o wrthwynebiad i’r dull.
Roedd un ym mhob pedwar wnaeth ateb yn “anghytuno’n gryf” â mesurau i leihau nifer yr eiddo gwag hirdymor – ond dywedodd oddeutu 40% o’r bobol gymerodd ran yn yr ymgynghoriad eu bod nhw’n berchen ar y fath eiddo.
Ar y pryd, dywedodd uwch swyddog y Cyngor “nad yw’n syndod na fydd pobol yn gefnogol lle gall hyn gael effaith ariannol ar bobol”.