Roedd hi’n benblwydd arbennig ar Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) eleni yn hanner can mlwydd oed. Bu UMCA yn cynnal gŵyl er mwyn dathlu’r garreg filltir arbennig hon, sef Gŵyl UMCA50, ’nôl ym mis Mehefin. O deithiau tywys o gwmpas Neuadd Pantycelyn a sgyrsiau byw gyda chyn-lywyddion UMCA, i gig yng nghwmni cerddorion pennaf Cymru megis Mei Emrys, Mynediad am Ddim, Dros Dro a Cyn Cwsg, roedd yn gyfle i ddathlu’r holl dalentau a llwyddiannau sy’n ffrwyth UMCA.

Ond buan y daeth y dathliadau i’r ben. Aeth y gerddoriaeth yn fud, a daeth y miri i ben.

Fisoedd yn unig ar ôl yr ŵyl, gwelwn nad ydy dyfodol Undeb Myfyrwyr Cymraeg cyntaf Cymru mor sefydlog ag a dybiwyd. A fydd UMCA yn gweld hanner can mlynedd arall, tybed?

Mae proses ar waith gan Undeb Myfyrwyr y brifysgol i ailystyried cyfansoddiad yr Undeb a diddymu un o’r pum rôl sabothol llawn amser. Ar ôl cyfnod diweddar o ymgynghori, daeth i’r amlwg fod yr Undeb yn ystyried diddymu Llywydd UMCA fel rôl llawn amser. Golyga hyn ei bod yn bosib y caiff y swydd honno, yn hytrach, ei phenodi i fyfyriwr fel rôl rhan amser neu wirfoddol.

Nod sefydlu pwyllgor UMCA oedd bod yn llais cyhoeddus dros fyfyrwyr ein hundeb, yn wyneb bygythiad i’r union lais hwnnw. Mewn datganiad yr wythnos ddiwethaf, mynnodd myfyrwyr Cymraeg na “fyddwn ni ddim yn ildio” hyd nes bod dyfodol UMCA wedi’i ddiogelu heddiw ac yn y dyfodol.

Beth yw pwysigrwydd Llywydd UMCA?

Yn sgil hynny, rydym wedi casglu dros 1,000 o lofnodion gan bobol ar draws Cymru a thu hwnt, drwy ddeiseb Achub UMCA. O gyn-lywyddion UMCA a swyddogion Cymraeg Prifysgolion Cymru i’r cyn-Archdderwydd Myrddin ap Dafydd a’r Aelod Seneddol Ben Lake, ymgrymuswn yn y gefnogaeth sy’n gefn inni wrth geisio gwarchod hawliau myfyrwyr Cymraeg a’r Gymraeg ei hun.

Beth, felly, yw gwerth Llywydd UMCA?

Ystyrir yn aml mai rôl ydyw sy’n ffocysu ar ddigwyddiadau cymdeithasol, ond cam gwag fyddai bychanu’r rôl i’r fath ystrydeb. Nid yn unig mae swydd Llywydd UMCA yn arwyddocaol yn wleidyddol ac yn academaidd fel llais i holl fyfyrwyr Cymraeg y brifysgol, ond mae ei gwerth diwylliannol ar raddfa genedlaethol yn ddi-gwestiwn.

Dolen gyswllt yw Llywydd UMCA i fyfyrwyr eraill Prifysgolion Cymru i gyd. Mae’r rôl yn rhan o rwydweithiau cymuned addysg uwch Gymraeg. Mae Llywydd UMCA yn cydweithio â swyddogion Cymraeg o Fangor, Caerdydd ac Abertawe, yn ogystal â chroesawu cymdeithasau Cymraeg led-led y Deyrnas Unedig yn y Ddawns Ryng-golegol – digwyddiad gaiff ei gynnal yn flynyddol yma yn Aberystwyth. Yn llythrennol, mae Llywydd UMCA yn asgwrn cefn i’r rhwydwaith hwnnw. Trwy ei ddiddymu, gall fod yn gatalydd i don o fygythiadau pellach i gynrychiolaeth myfyrwyr Cymraeg ar draws prifysgolion Cymru a thu hwnt.

‘Hanes y Gymraeg yw hanes UMCA’

Hanes y Gymraeg yw hanes UMCA. Boed fel sefydliad hanesyddol undeb myfyrwyr Cymraeg cyntaf Cymru neu fel sefydlwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae arwyddocad y rôl ar lefel genedlaethol yn gwbl ddigamsyniol. Gwarth ydyw, felly, ein bod yn parhau i wynebu’r un bygythiadau i hawliau myfyrwyr Cymraeg a ysgogodd sefydlu UMCA ’nôl yn 1974.

Ein hetifeddiaeth fel myfyrwyr Cymraeg yn Aberystwyth yw’r heriau sy’n parhau i fygwth ein hawl i fyw drwy’r Gymraeg ddegawd ar ôl degawd. Ystyriwch: bu llawer ohonom fel aelodau yn preswylio yn Neuadd Pantycelyn – y neuadd honno oedd dan fygythiad oddeutu degawd ynghynt.

Ein hetifeddiaeth, hefyd, fel myfyrwyr Cymraeg yn Aberystwyth, yw’r tân sy’n ein gyrru drwy’r heriau hyn. Er iddyn nhw baentio’r waliau yn wyn ffres a gosod dodrefn newydd yn y neuadd breswyl, mae hen ysbryd Pantycelyn yn parhau ac ni fyddwn yn ildio hyd nes bod dyfodol Llywydd UMCA a’r Undeb Cymraeg yn ddiogel.