Mae gan bob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru’r hawl i ginio Nadolig am ddim am y tro cyntaf yr wythnos hon.
Daw hyn yn sgil Rhaglen Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd Llywodraeth Cymru.
Mae dros 35m o brydau wedi’u gweini, a llai na 175,000 o ddysgwyr wedi dod yn gymwys i gael pryd ysgol am ddim, ers cwblhau’r rhaglen ym mis Medi.
Rhaglen Prydau Ysgol am Ddim
Mae prydau ysgol am ddim yn helpu i wella cyrhaeddiad ac ymddygiad dysgwyr, yn ogystal â hyrwyddo bwyta’n iach a gwella sgiliau cymdeithasol yn ystod prydau bwyd, yn ôl y Llywodraeth.
Mae ysgolion hefyd wedi elwa ar gyllid i wella cyfleusterau eu ceginau.
Ysgol sydd wedi elwa ar y Rhaglen Prydau Ysgol am Ddim yw Ysgol Gynradd y Rhws yn y Barri, lle mae’r gwaith o uwchraddio’u cegin a’u hardal fwyta wedi’i gwblhau’n ddiweddar.
Dywed Carole Tyley, Rheolwr Gyfarwyddwr The Big Fresh Catering Company, sef darparwr gwasanaeth arlwyo Bro Morgannwg, fod staff arlwyo Ysgol Gynradd y Rhws yn “ddiolchgar iawn” am eu cegin a’u neuadd fwyta newydd yn sgil cyllid gan Lywodraeth Cymru.
“Mae gan y gegin gyfarpar newydd modern sy’n helpu i ddarparu prydau iach a maethlon,” meddai.
“Mae’r neuadd fwyta yn fan newydd, lliwgar a deniadol, sy’n ddelfrydol i ddisgyblion gymdeithasu wrth rannu cinio gyda’i gilydd.”
Cymru ar y blaen
Dywed Lynne Neagle, Ysgrifennydd Addysg Cymru, ei bod hi’n “hynod falch” mai Cymru yw’r genedl gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gynnig prydau ysgol am ddim i ddisgyblion ysgolion cynradd.
“Mae wedi bod yn wych gweld y dysgwyr yma yn Ysgol Gynradd y Rhws yn mwynhau eu cinio Nadolig,” meddai.
“Rwy’ am ddiolch i’n hawdurdodau lleol a’n hysgolion am helpu i wireddu hyn.
“Rydyn ni’n helpu i daclo tlodi plant a gwella lles ein dysgwyr, ac mae hyn eisoes wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i deuluoedd ledled Cymru.”