Mae arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru’n dweud bod y blaid mewn sefyllfa “dda” yn sgil y Gyllideb Ddrafft pe bai yna “gytundeb i’w gael”.
Mae angen cefnogaeth o leiaf un Aelod o’r Senedd o’r gwrthbleidiau ar Lywodraeth Cymru i gael pasio’r Gyllideb Ddrafft.
Wrth siarad â golwg360, dywed Jane Dodds bod ei blaenoriaethau hi ar gyfer unrhyw gytundeb posib efo Llywodraeth Cymru yn ddibynnol ar sicrhau bod “mwy o arian” yn mynd i mewn i wasanaethau gofal, gwasanaethau plant, ac awdurdodau lleol.
‘Mwy o arian i awdurdodau lleol’
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru sy’n gyfrifol am ddyrannu’r gyllideb sydd yn dod i awdurdodau lleol, sydd tua £5.2bn, yn ôl y Gyllideb Ddrafft.
Y Cynghorydd Llafur Andrew Morgan, sydd hefyd yn Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, yw arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Mae cynghorwyr ym Mhowys, gan gynnwys y Democrat Rhyddfrydol James Gibson-Watt, yn pryderu na fydd y 3.2% o gynnydd sy’n cael ei gynnig ar hyn o bryd yn ddigonol.
Ar gyfartaledd, mae cyllidebau awdurdodau lleol ar draws Cymru yn cynyddu 4.3%.
Dywed Jane Dodds ei bod hi’n cydymdeimlo â’r “sefyllfa ofnadwy” mae awdurdodau lleol ynddi ar hyn o bryd.
Er mai awdurdodau lleol sy’n cael eu rheoli gan y Blaid Lafur sydd wedi derbyn y cynnydd mwyaf, dydy Jane Dodds “ddim yn meddwl” bod strwythur dosbarthu’r arian yn rhan o gêm wleidyddol.
“Mae’n rhaid i ni gael rhywbeth sy’n deg,” meddai wrth golwg360.
“Mae pawb yn meddwl nad ydi awdurdodau lleol gwledig ddim yn gwario gymaint ag y mae awdurdodau mewn trefi, ond mae gwasanaethau yn costio mwy yng nghefn gwlad.
“Felly, ie, dw i eisiau gweld mwy o arian yn mynd i mewn i awdurdodau lleol.”
‘Sefyllfa dda’
Ers cyhoeddi’r Gyllideb Ddrafft ddydd Mawrth diwethaf (Rhagfyr 10), mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cynnal trafodaethau â’r gwrthbleidiau, gan gynnwys Jane Dodds, yr unig Aelod Rhyddfrydol o’r Senedd.
Mae hi’n aml wedi disgrifio’i rôl fel un “unig”, ond fod y sefyllfa mae Llywodraeth Cymru ynddi ar hyn o bryd yn un dda o safbwynt rhoi cyfle iddi hithau “newid pethau”.
“Dyna ydi’r rheswm dw i wedi mynd i mewn i’r byd gwleidyddol,” meddai.
“Os oes yna gytundeb i’w gael, mae o’n sefyllfa dda.”
Ychwanega nad yw hi’n “chwarae gêm wleidyddol”, ac mai ei hunig amcan yw “newid a gwella pethau” er lles pobol Cymru.
Er bod hwn yn gyfle iddi hi a’r Democratiaid Rhyddfrydol, dywed fod yna bwysau arni hefyd gyda “llawer o bobol ar y ffôn” yn ei gwthio am ragor o gyllid.
“Does gen i ddim tîm mawr, felly mae’n bwysig cofio hynny hefyd,” meddai.
Safon dŵr yn rhan o drafodaethau cyllid?
Un o amcanion y Democratiaid Rhyddfrydol ydi mynd i’r afael â llygredd dŵr.
Heddiw (dydd Iau, Rhagfyr 19), daeth cadarnhad fod costau biliau dŵr yn codi £86 y flwyddyn nesaf a hynny, yn ôl Dŵr Cymru, er mwyn talu am welliannau “angenrheidiol”.
Er i £483m gael ei wario ar welliannau dros y blynyddoedd diwethaf, mae nifer yr achosion o lygredd dŵr wedi cynyddu 20% ers 2023.
Ond a fydd llygredd dŵr a mesurau i wella perfformiad Dŵr Cymru yn cael eu crybwyll yn ystod trafodaethau?
“Efallai,” meddai.
Dywed fod “rhaid sicrhau” bod Dŵr Cymru yn “gweithio’n dda ar draws Cymru”, a bod Llywodraeth Cymru’n pwyso arnyn nhw i wneud hynny hefyd.
Dim dylanwad gan Syr Ed Davey
Dywed Jane Dodds fod y penderfyniad i gefnogi’r gyllideb ai peidio yn fater iddi hi ei hun, ac nid i Syr Ed Davey, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Prydeinig yn San Steffan.
Ychwanega fod y sefyllfa’r un fath â phan oedd Kirsty Williams, cyn-arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, yn rhan o Lywodraeth Cymru mewn clymblaid rhwng 2016 a 2021.
Mae Kirsty Williams wedi bod “yn y cefndir” yn helpu Jane Dodds i “ddeall sut yn union mae [trafodaethau cyllidebol] yn gweithio”, meddai.
Mae disgwyl i drafodaethau ar y Gyllideb Ddrafft barhau i’r flwyddyn newydd, cyn cynnal pleidlais ar y fersiwn derfynol ym mis Chwefror.