Bydd yr heddlu’n “edrych ar fanylion” treialon â chamerâu deallusrwydd artiffisial (AI) arloesol i ddod o hyd i yrwyr sy’n gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau.

Ar hyn o bryd, mae Heddlu Dyfnaint a Chernyw yn arbrofi â’r defnydd o dechnoleg fodern o’r radd flaenaf sy’n anelu at ddod o hyd i yrwyr sydd dan ddylanwad, drwy fonitro’u hymddygiad wrth y llyw.

Unwaith maen nhw’n cael eu dal ar gamera, gall yr heddlu stopio a chynnal prawf anadl ymhellach i lawr y lôn ar gyfer y rhai sydd dan amheuaeth.

Mae Amanda Blakeman, Prif Gwnstabl Heddlu’r Gogledd, wedi cadarnhad nad oedd hi’n ymwybodol o’r treialon, ond y bydd hi’n edrych ar y manylion.

Holi’r heddlu

Roedd hi’n ymateb i gwestiwn gan Pat Astbury, cynghorydd yn Sir Ddinbych, oedd yn cadeirio panel Heddlu a Throsedd y Gogledd mewn cyfarfod ym mhencadlys Bodlondeb yng Nghonwy yr wythnos hon.

Fe wnaeth y Cynghorydd Pat Astbury holi Andy Dunbobbin, y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, a’r Prif Gwnstabl am y mater.

Gofynnodd a yw’r dechnoleg yn rywbeth fyddai Heddlu’r Gogledd yn ystyried ei defnyddio ar ffyrdd y gogledd.

“Dim ond rhywbeth ar ddiogelwch ffyrdd,” meddai.

“Sylwais i’r diwrnod o’r blaen fod Lloegr yn treialu camerâu ar gyfer pobol sy’n yfed a gyrru.

“Ydych chi wedi clywed amdano fo?

“Os ydy o’n iawn, ydych chi’n credu bod gobaith fedrwn ni eu cael nhw yma?

‘Hapus i edrych ar y manylion’

“Dw i heb glywed am hynny eto, gadeirydd, ond dw i’n edrych tuag at y Prif Gwnstabl am rywfaint o gefnogaeth ar hynny,” meddai Andy Dunbobbin.

“Rydyn ni’n defnyddio camerâu ANPR dipyn am amryw o resymau, yn amlwg efo’r awdurdodau priodol yn eu lle – ANPR, er enghraifft,” meddai Amanda Blakeman.

“Alla i ddim ond dychmygu mai dyna ydy o.

“Dw i ddim wedi clywed am y treialon rydych chi’n sôn amdanyn nhw yn fan’no, gadeirydd.

“[Dw i yn] hapus i edrych ar y manylion a gweld beth sydd ynghlwm, a gweld os oes yna rywbeth yn fan hyn i ni yma yng ngogledd Cymru.”

“Roeddwn i’n meddwl, sut ar wyneb y Ddaear fyddai hynny’n gweithio?” meddai’r Cynghorydd Pat Astbury wedyn.

“Oni bai mai [asesu] y dull o yrru oedd o.”

“Dw i heb weld yr erthygl yn bersonol, ond dw i’n hapus i edrych arni,” meddai’r Prif Gwnstabl.