Mae un o elusennau mwyaf blaenllaw Cymru yn beirniadu strategaeth Llywodraeth Cymru wrth gasglu data ar y niferoedd sy’n ddigartref neu’n cysgu ar y strydoedd.

Ers 2015, mae’r Llywodraeth wedi bod yn casglu data ar y rheiny sy’n cysgu ar y strydoedd mewn cyfrifiad blynyddol.

Yn 2020, penderfynodd y Llywodraeth ddisodli’r cyfrifiad dros dro gydag arolwg misol gan awdurdodau lleol fyddai’n para nes diwedd y pandemig.

Ond yn gynharach eleni, fe gyhoeddodd y Llywodraeth eu bod nhw’n bwriadu cael gwared ar y cyfrifiad blynyddol yn barhaol.

Mae “gwendid” i’r strategaeth fisol newydd, fodd bynnag, yn ôl The Wallich, sef elusen ddigartrefedd fwyaf Cymru.

‘Adrodd yr hanes yn iawn’

Yn ôl y ffigurau diweddaraf, ar gyfer mis Medi, roedd dros 11,000 o bobol yng Nghymru’n statudol ddigartref, a 173 o’r rheiny’n cysgu ar y strydoedd.

Mae’r Fyddin Iachawdwriaeth yn dadlau bod y ffigurau hyn ar eu huchaf ers i gofnodion ddechrau yn 2015.

Ond mae pryderon gan y Wallich nad yw’r ffigurau’n adlewyrchiad manwl gywir o’r nifer sy’n ddigartref neu sy’n cysgu ar y strydoedd.

“Mae casglu ystadegau ar ddigartrefedd yn anodd, oherwydd dydy digartrefedd ddim wastad yn weledol,” meddai Thomas Lavery, cydlynydd polisi a materion cyhoeddus yr elusen, wrth golwg360.

“Er bod pob un achos yn unigryw, mae cael data dibynadwy yn gymorth anferthol i lunio polisi a rhoi gwybod i ni pa wasanaethau sydd eu hangen.”

Er eu bod nhw’n falch bod y Llywodraeth wedi dewis ceisio mesur y niferoedd yn fwy cyson, maen nhw’n gofidio nad yw’r ffigyrau misol newydd yn “adrodd yr hanes yn iawn”.

Anghysondeb

Dywed Llywodraeth Cymru y caiff y ffigyrau misol newydd eu hamcangyfrif gan awdurdodau lleol Cymru ar sail “gwybodaeth leol” ar ddiwedd pob mis.

Mae’r Wallich yn credu bod diffyg sicrwydd i’r dull hwn o gasglu data.

Mater o “ddehongli” ydy methodoleg y strategaeth newydd, medden nhw, sy’n arwain at anghysondeb wrth gymharu canlyniadau’r 22 awdurdod lleol.

Dywed Thomas Lavery nad yw’n beth “anghyffredin” gweld awdurdodau lleol yn cofnodi “nad oes yna’r un person yn cysgu ar y strydoedd yn eu sir nhw”.

“Dydy hynny ddim yn adlewyrchu’n profiadau ni wrth wneud ein gwaith yn y cymunedau hynny,” meddai.

“Cysondeb ydy’r allwedd ar gyfer ymateb Cymru-gyfan.”

Cofnod byw

Mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi dyhead hirdymor wrth golwg360 i fedru casglu data priodol ar ddigartrefedd neu fygythiad digartrefedd ar lefel yr unigolyn.

Byddai gwybodaeth o’r fath yn galluogi rhyng-gysylltedd gydag unrhyw wybodaeth bersonol arall sydd gan y Llywodraeth, megis hanes teuluol neu’r llochesi mae’r unigolyn wedi’u defnyddio.

Ond mae’r Llywodraeth hefyd yn cydnabod na fyddai’r data hwn – i ddechrau, o leiaf – yn medru bod yn gofnod byw fyddai’n nodi os ydy unigolyn yn cysgu ar y strydoedd ai peidio ar hyn o bryd.

Mae The Wallich yn mynnu mai cofnod byw o ddata ydy’r “ddelfryd”, am ei fod yn sicrhau “nad oes neb yn cwympo o’r neilltu”.

Fodd bynnag, os nad yw hynny’n bosib, maen nhw’n galw ar Lywodraeth Cymru i geisio mesur cyfartaledd neu dueddiadau’r niferoedd sy’n cysgu ar y strydoedd ar draws y mis, yn hytrach nag ar ddiwedd y mis yn unig.

Yn ogystal, maen nhw’n gofyn i’r Llywodraeth fesur faint o amser mae unigolion yn ei dreulio y tu allan i loches neu’n cysgu ar y strydoedd, ac am ragor o gysylltedd rhwng y ffigurau digartrefedd a’r cronfeydd data iechyd meddwl a throsedd.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.