Mae Gisèle Pelicot yn ysbrydoliaeth i ferched ar draws y byd, yn ôl Liz Saville Roberts.

Daw sylwadau arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan ar ddiwedd achos llys yn Avignon yn Ffrainc, sydd wedi arwain at garcharu Dominique Pelicot am gyffurio a threisio’i wraig ac am drefnu bod degau o ddynion eraill yn gwneud yr un fath.

Digwyddodd y gamdriniaeth dros nifer o ddegawdau, wrth i’r degau o ddynion gael eu gwahodd gan Dominique Pelicot i gartre’r pâr.

Mae e wedi’i garcharu am ugain mlynedd, sef y ddedfryd fwyaf bosib ar gyfer y troseddau y cafwyd e’n euog ohonyn nhw.

Cafwyd pob un o’r 50 o bobol eraill yn euog o droseddau tebyg hefyd, gyda’r dedfrydau’n amrywio o dair i bymtheg mlynedd dan glo, sydd dipyn llai na’r hyn roedd erlynwyr wedi’i obeithio.

Ysbrydoliaeth

Fe fu sylw’r byd ar Gisèle Pelicot drwy gydol yr achos, ar ôl i’r ddynes 71 oed benderfynu rhoi tystiolaeth a mynd i’r llys bob dydd dros gyfnod o dri mis.

Mynnodd y ddynes, sy’n fam i dri o blant, fod y cyhoedd yn cael mynediad at yr achos, a bod fideos o’r gamdriniaeth erchyll yn cael eu dangos i’r llys mewn ymgais i wrthbrofi tystiolaeth y rhai oedd wedi’u cyhuddo.

Ei gobaith, meddai, yw y bydd yr achos yn newid y gymdeithas Ffrengig er gwell.

“Merci, Gisèle,” meddai Liz Saville Roberts ar X (Twitter gynt), gan ychwanegu llun o galon borffor.

“Mae dewrder Gisèle Pelicot yn wyneb cam-drin dyn a ddylai fod wedi ei hamddiffyn yn ysbrydoledig i ferched ar draws y byd.”