Mae Cyngor Caerdydd wedi cadarnhau wrth golwg360 nad ydyn nhw’n cadw data o flwyddyn i flwyddyn ar nifer y ceisiadau gan rieni am lefydd mewn ysgolion uwchradd penodol yn y brifddinas.

Dylai ffigyrau o’r fath fod yn “hanfodol” wrth geisio asesu’r galw am ysgolion uwchradd Cymraeg yng Nghaerdydd, yn ôl ymgyrchwyr o blaid sefydlu ysgol Gymraeg newydd yn ne’r ddinas.

Mesur y galw

Wrth geisio am lefydd ysgol, mae hawl gan rieni i wneud mwy nag un cais, gan restru’r ysgolion, o’r un maen nhw’n ei ffafrio fwyaf i’r un maen nhw’n ei ffafrio leiaf.

Mae’r Cyngor yn cyhoeddi ffigyrau terfynol bob blwyddyn sy’n dangos faint o geisiadau gafodd eu cymeradwyo a’u gwrthod fesul ysgol.

Fodd bynnag, yn ôl ymateb i gais rhyddid gwybodaeth gan golwg360, dydy’r ffigyrau hyn ddim yn medru darparu gwybodaeth am nifer y ceisiadau i bob ysgol yn unigol, gan mai dim ond y ceisiadau terfynol hynny lle mae angen gwneud penderfyniad sy’n cael eu cynnwys yn y cyhoeddiad, ac nid yr holl geisiadau yn gyffredinol.

Nid yw’r data’n datgelu, chwaith, ai’r ceisiadau hynny gafodd eu cymeradwyo oedd dewis cyntaf y rhieni a’r disgyblion.

Yn ogystal, dim ond y ffigyrau terfynol hyn sy’n cael eu cadw o flwyddyn i flwyddyn gan y Cyngor.

Dywed y Cyngor nad oes modd, felly, cyfrifo nifer y ceisiadau yn eu cyfanrwydd fesul cyfrwng iaith yr ysgol, na chwaith y newid yn nifer y ceisiadau i ysgolion o fathau dros amser.

O ganlyniad, mae’n anodd iawn mesur unrhyw newid o ran y galw am fathau penodol o ysgolion y tu hwnt i nifer y ceisiadau sy’n cael eu gwrthod yn gyfan gwbl.

Felly, mae cael gwybod os oes cynnydd yn niddordeb rhieni mewn ceisio am addysg Gymraeg yn y brifddinas yn her.

‘Synnu’

Mae ymgyrchwyr ‘Ysgol De Caerdydd’ yn dweud eu bod nhw wedi’u “synnu” nad oes data mewnol gan Gyngor Caerdydd ar nifer y ceisiadau ar gyfer ysgolion penodol o flwyddyn i flwyddyn.

Maen nhw’n dadlau bod peidio medru dadansoddi’r ceisiadau yn golygu nad yw’r Cyngor yn medru cyflenwi’r ddarpariaeth mae dinasyddion y brifddinas yn galw amdani.

Mae hon yn broblem arbennig o berthnasol yn achos ardaloedd megis Tre-biwt yn ne’r brifddinas, meddai llefarydd ar ran y grŵp ymgyrchu.

Fe wnaeth y BBC ddarganfod eleni fod llai na hanner disgyblion Tre-biwt yn cael cynnig gan eu dewis cyntaf ar gyfer addysg uwchradd, o gymharu ag 88% ledled y ddinas.

“Mae hi’n ymddangos bod rhai yn llai tebygol nag eraill o gael eu dewis cyntaf neu ail ddewis o ysgol,” meddai’r llefarydd.

Yn y gorffennol, mae’r grŵp wedi cyfeirio at ragfarn ac ystrydebu fel un o’r rhesymau pam nad oes gan y rhanbarth deheuol ddarpariaeth deg o ran ysgolion uwchradd Cymraeg .

‘Dim sicrwydd’

Mae’r grŵp hefyd yn dadlau bod y dull gaiff ei ddefnyddio er mwyn casglu’r ceisiadau yn anaddas er mwyn mesur y galw, yn enwedig os mai dim ond y cynigion terfynol sy’n cael eu cadw.

Maen nhw’n honni bod y Cyngor “i’w gweld yn fodlon gyda sefyllfa lle mae rhieni yn rhoi cymysgedd o ysgolion Cymraeg a Saesneg ar eu ffurflenni ceisio”, yn hytrach nag yn medru manylu ar y cyfrwng iaith fyddai orau ganddyn nhw.

“Rydym yn bell o’r ddelfryd lle mae teulu yn gallu cael sicrwydd o addysg Gymraeg i’w plant drwy gydol eu hamser ysgol,” meddai llefarydd.

“Mae nifer o deuluoedd eisiau dewis addysg Gymraeg, ond yn rhoi un neu fwy o ysgolion Saesneg ar y ffurflen fel polisi yswiriant, rhag ofn bod y Cyngor yn penderfynu nad oes lle iddyn nhw mewn ysgol Gymraeg.

“Ar ôl blynyddoedd o esgeulustod, mae angen i dde Caerdydd fod yn llawer mwy o flaenoriaeth i’r Cyngor, ac mae darparu ysgol uwchradd Gymraeg ar stepen drws y cymunedau hyn yn rhan allweddol o unioni’r sefyllfa,” meddai’r llefarydd.

Ers i golwg360 holi ym mis Tachwedd, mae Cyngor Caerdydd wedi datgan ymrwymiad i agor pedwerydd ysgol Gymraeg yn yr hirdymor.

“Deffrwch!”: Neges trigolion Caerdydd i’r Cyngor tros ysgol uwchradd Gymraeg newydd

Rhys Owen

Bu rhieni a phlant yn protestio tu allan i Neuadd y Ddinas yn gynnar fore heddiw (dydd Iau, Tachwedd 21) yn erbyn “esgusodion” y Cyngor

“Dim lot o dystiolaeth i ddangos bod Cyngor Caerdydd o blaid yr iaith Gymraeg”

Rhys Owen

Mae’r ymgyrchydd Carl Morris wedi bod yn siarad â golwg360 am yr ymgyrch i sefydlu Ysgol De Caerdydd