Mae Cyngor Caerdydd yn dadlau bod cwymp yng nghyfran enedigaeth y brifddinas yn golygu nad oes digon o fyfyrwyr i gyfiawnhau agor pedwaredd ysgol uwchradd Gymraeg.
Daw’r sylwadau yn dilyn ymateb gan Gabinet y Cyngor i gwestiwn yn galw am gynllun i adeiladu ysgol Gymraeg newydd.
Mae’r grŵp ymgyrchu Ysgol De Caerdydd wedi bod yn ymgyrchu er mwyn darbwyllo Cyngor Caerdydd fod angen adeiladu ysgol uwchradd Gymraeg newydd yn ne’r ddinas, i gynyddu mynediad plant y brifddinas at addysg Gymraeg.
Daw’r ymgyrch wrth i arolwg gan Gymdeithas yr Iaith ddangos bod 59% o bobol Cymru o blaid rhoi’r Gymraeg i bob plentyn.
Mae’r tair ysgol uwchradd Gymraeg – sef Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf (Llandaf), Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr (Y Tyllgoed) ac Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern (Penylan) – i gyd wedi’u lleoli i’r gogledd o ganol y ddinas.
Wrth ymateb, dywed llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd ei bod hi’n “anochel bod gwneud newidiadau mor sylweddol i addysg yng Nghaerdydd yn dod â llawer o heriau, ac mae angen ymrwymiad a buddsoddiad sylweddol a pharhaus gan y Cyngor dros nifer o flynyddoedd”.
‘Ysgol Hamadryad a dyna ni?’
Daeth ymateb chwyrn gan drigolion i’r newyddion nad oes cynlluniau i agor pedwaredd ysgol uwchradd Gymraeg yn y brifddinas.
Mae angen cynllun llawer mwy uchelgeisiol a chreadigol er mwyn sicrhau bod addysg cyfrwng Cymraeg o fewn cyrraedd pob plentyn a chymuned yng Nghaerdydd.https://t.co/pDQPWABKQ7 @YsgolDeCaerdydd
— Rhys Taylor (@syhrtaylor) November 2, 2024
Mae eraill wedi mynd ymhellach, gan ddweud bod Cyngor Caerdydd yn wrth-Gymraeg, er bod yr arweinydd Huw Thomas yn siaradwr Cymraeg.
Wrth drafod hyn â golwg360, dywed Carl Morris, sydd yn aelod o’r grŵp ymgyrchu ‘Ysgol De Caerdydd’, nad oes “lot o dystiolaeth i ddangos bod Cyngor Caerdydd o blaid yr iaith”.
“Yr unig enghraifft o ysgol Gymraeg maen nhw wedi’i hagor ers blynyddoedd yw Ysgol Hamadryad, ac roedd yr un yna ar ôl blynyddoedd o ymgyrchu gan bobol Caerdydd, oedd wedi rhoi pwysau ar y Cyngor.”
Cafodd Ysgol Hamadryad ei hagor yn 2016, a hynny yn ardal hen ddociau Caerdydd, ar gyfer plant o ardal Tre-biwt a de Trelluest.
Ers hynny, mae nifer o rieni wedi’u gadael yn “rhwystredig”, ar ôl i’w plant gael eu gwrthod gan Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf.
Fe wnaeth rhieni pump allan o 16 o blant yn Ysgol Hamadryad gais aflwyddiannus i fynd i Ysgol Glantaf.
Dywed Carl Morris ei bod yn “ddiddorol” fod Cyngor Caerdydd wedi adeiladu Ysgol Hamadryad heb “feddwl am y dilyniant” o ran cefnogi gweddill addysg y plant drwy’r system addysg Gymraeg.
“Mae rhai o’r teuluoedd yn dewis gyrru eu plant nhw i Ysgol Uwchradd Fitzalan, gan ei bod yn agosach,” meddai.
“Wedyn, ti’n cael plant yn cwympo allan o’r system.”
Ychwanega fod hyn yn amharu dipyn ar deuluoedd difreintiedig, sydd efallai heb fynediad at gar i fedru mynd â’u plant i un o’r ysgolion Cymraeg yng ngogledd y ddinas, os ydy eu cais yn llwyddiannus yn y lle cyntaf.
Strategaeth mewn lle, ond ddim gweithred
“Mae yna bethau fel prosiect Caerdydd Dwyieithog, ac maen nhw’n dweud y pethau iawn yn eu strategaethau,” meddai Carl Morris wedyn.
“Ac mae’r un yn wir efo’r cynllun strategol ar addysg Gymraeg hefyd.
“Ond dydyn ni ddim yn gweld y gweithredu.”
Yn eu strategaeth, mae Cyngor Caerdydd wedi gosod targed i gael 14.7% o blant yn cael eu haddysg mewn ysgolion uwchradd Cymraeg erbyn 2026-27.
Yn ystod y Cyfrifiad diwethaf yn 2021, roedd y ffigwr oddeutu 13.7%.
Yn rhan o hyn mae’r targed cenedlaethol i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Ychwanega Carl Morris fod y cyfeiriad mae’r Cyngor yn mynd iddo ar hyn o bryd “yn bendant yn gwahaniaethu yn erbyn rhai ardaloedd daearyddol, sydd yn digwydd bod yn ardaloedd efo teuluoedd difreintiedig”.
‘Dim mentergarwch nac uchelgais i dyfu’r Gymraeg’
Yn ôl Carl Morris, dydy Cyngor Caerdydd ddim “wedi dangos unrhyw fath o fentergarwch nac uchelgais i dyfu’r Gymraeg yn y ddinas”.
Dywed fod y Cyngor wedi “llusgo’u traed bob tro” dros y deugain mlynedd diwethaf pan ddaw i “ehangu darpariaeth” yr iaith.
Ychwanega y dylai Cyngor Caerdydd, sydd â chyfrifoldeb am brifddinas Cymru, fod â mwy o “uchelgais” gan fod y Gymraeg yn iaith swyddogol.
“Rydyn ni’n byw mewn democratiaeth ifanc, ac mae hyn i gyd yn arwain at yr angen i sicrhau bod yna ysgolion Cymraeg i’r holl ardaloedd,” meddai.
“Dw i ddim yn gweld sut maen nhw [Cyngor Caerdydd] am allu cyrraedd targedau.”
Ymateb
“Mae Caerdydd wedi nodi ei amcanion, Cryfach, Tecach, Gwyrddach, sy’n canolbwyntio’n gryf ar roi plant a phobol ifanc yn gyntaf o ran uchelgeisiau ar gyfer y ddinas,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd.
“Mae hyn yn cynnwys ymrwymiadau clir i ddatblygu rhaglen Ysgolion â Ffocws Cymunedol ac yn hyrwyddo manteision dwyieithrwydd, gan ehangu’r nifer sy’n manteisio ar addysg Gymraeg yn unol â Cymraeg 2050.
“Mae’n anochel bod gwneud newidiadau mor sylweddol i addysg yng Nghaerdydd yn dod â llawer o heriau, ac mae angen ymrwymiad a buddsoddiad sylweddol a pharhaus gan y Cyngor dros nifer o flynyddoedd.
“Daw’r buddsoddiad hwn ar sawl ffurf, nid yn unig yn seilwaith ein hysgolion, ond hefyd o ran recriwtio, hyfforddi a chadw staff a gweithwyr arweinyddiaeth proffesiynol wrth wraidd cynnig dysgu Caerdydd, ac wrth sicrhau bod gan ddysgwyr fynediad da at rwydwaith teithio ar gyfer eu taith o’r cartref i’r ysgol.
“Rydym yn gwybod y byddai rhai rhieni yn dymuno cael Ysgol Uwchradd Gymraeg yn agosach at ble maen nhw’n byw ac rydym yn deall hynny, ond mae’n rhaid cynllunio’r broses o ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg – yn wir wrth ehangu unrhyw ddarpariaeth ysgol, cyfrwng Cymraeg neu gyfrwng Saesneg – yn ofalus, i sicrhau bod yr holl ddarpariaeth yn gallu gweithredu’n effeithiol ac yn gynaliadwy a bod sicrwydd yn cael ei roi, fel na fyddai unrhyw gynigion yn tanseilio cynaliadwyedd yr ysgolion presennol.
“Nid yw cyfraddau a rhagamcanion genedigaethau diweddar yn nodi ar hyn o bryd bod digon o ddisgyblion i gynnal pedwaredd ysgol uwchradd Gymraeg, a rhagwelir y bydd derbyniadau i ysgolion uwchradd Cymraeg yn lleihau yn 2025/26 a 2026/27, o’i gymharu â blwyddyn dderbyn 2024/25.
“Y peth tyngedfennol yw, mae digon o leoedd ar gael yn ysgolion uwchradd Cymraeg Caerdydd i gefnogi unrhyw ddisgyblion sydd eisiau dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
“Mae Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg y Cyngor (CSCA) 2022-2031 yn cwmpasu ystod eang o ymrwymiadau gan gynnwys dilyniant cynlluniau strategol i gynyddu maint parhaol darpariaeth uwchradd cyfrwng Cymraeg dros y cyfnod o ddeng mlynedd.
“Mae’r holl wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd yn dangos, ar wahân i un flwyddyn dderbyn yn 2027/28, y rhagwelir y bydd lleoedd gwag ledled y ddinas ym mhob blwyddyn arall.
“Mae’r Cyngor eisoes yn bwriadu cynyddu nifer y lleoedd dros dro i gefnogi’r defnydd ‘chwyddedig’ a ragwelir i ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg yn 2027/28.
“Ar ôl hyn, mae’r nifer a ragamcenir unwaith eto yn gostwng yn sylweddol a byddan nhw yn parhau ar lefelau is tan o leiaf 2031/32, gan adlewyrchu cyfraddau genedigaethau isel diweddar a derbyniadau is i addysg gynradd.
“Mae digon o leoedd wedi’u cynllunio ac ar gael yn y tair ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg i gefnogi dysgwyr Caerdydd tan o leiaf blwyddyn dderbyn 2031/32, gyda digon o hyblygrwydd yn yr ysgolion hyn i ddarparu ar gyfer ein twf targedig.
“Mae’r Cyngor yn parhau i weithio’n agos gyda sefydliadau partner i hyrwyddo manteision addysg ddwyieithog i dyfu’r Gymraeg a nifer y dysgwyr sy’n mynd i addysg gynradd Gymraeg ac, yn ei dro, yn cefnogi’r broses o ehangu darpariaeth uwchradd Gymraeg yn y dyfodol.”