Mae 59% o bobol yng Nghymru yn credu y dylai pob plentyn adael yr ysgol yn siarad Cymraeg yn hyderus, ac mae cyfran sylweddol yn cefnogi troi pob ysgol yn un Cymraeg erbyn 2050, yn ôl canlyniadau arolwg barn newydd.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, oedd wedi comisiynu’r arolwg, mae’r canlyniadau’n dangos bod angen i’r Llywodraeth fod yn fwy “blaengar” gyda’r cynlluniau ar gyfer addysg Gymraeg yn eu deddfwriaeth arfaethedig, Bil y Gymraeg ac Addysg.

Roedd 59% o bobol gafodd eu holi mewn arolwg gan YouGov yn credu y dylai ysgolion anelu i addysgu pob disgybl i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus, gyda 29% yn anghytuno a 12% yn ateb ‘ddim yn gwybod’.

O hepgor y rhai atebodd ‘ddim yn gwybod’, mae’r ganran o blaid yn codi i 67%.

Yn yr un arolwg, dywedodd 39% o bobol eu bod nhw’n cefnogi’r egwyddor y dylai pob ysgol yng Nghymru symud at addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2050, gyda 47% yn gwrthwynebu a 14% ddim yn gwybod.

O hepgor y rheiny atebodd ‘ddim yn gwybod’, mae’r ffigwr sy’n gefnogol yn codi i 45%.

Mae’r gefnogaeth ar gyfer addysg Gymraeg ar ei huchaf ymhlith y grŵp oedran 16-24 oed.

Yn y grŵp oedran hwn, roedd 74% yn credu y dylai pob plentyn adael yr ysgol yn siarad Cymraeg yn hyderus, a 55% yn cefnogi trosi pob ysgol yn un Cymraeg erbyn 2050.

O hepgor y rhai atebodd ‘ddim yn gwybod’, mae’r ffigurau’n codi i 80% a 60%.

‘Polisi prif ffrwd’

“Rydyn ni’n credu y dylai pob plentyn yng Nghymru gael yr hawl i ddod yn siaradwr Cymraeg hyderus trwy’r system addysg, ac mae’n amlwg o’r canlyniadau yma bod mwyafrif pobol Cymru’n cytuno gyda ni ar hyn,” meddai Toni Schiavone, cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith.

“Mae’r canlyniadau yma hefyd yn dangos bod ein polisi o addysg Gymraeg i bawb bellach yn un prif ffrwd.

“Ar hyn o bryd, mae tua 80% o’n plant yn gadael yr ysgol heb allu defnyddio’r Gymraeg yn hyderus yn eu bywyd bob dydd, rhywbeth sy’n eu hallgáu o gymaint o gyfleoedd yn ddiwylliannol, yn gymdeithasol ac yn y gweithle.

“Mae’n drawiadol bod bron yn union yr un ganran o bobl 16-24 oed eisiau i bawb adael yr ysgol yn siaradwyr Cymraeg.

“Bydd llawer o’r bobol ifanc yma wedi gadael yr ysgol yn y blynyddoedd diwethaf wedi cael deuddeg mlynedd o wersi Cymraeg yn eu haddysg statudol ond yn methu defnyddio’r Gymraeg yn hyderus ac yn teimlo bod y system wedi eu methu.”

Bil y Gymraeg ac Addysg

Mae beirniadaeth Cymdeithas yr Iaith o Fil y Gymraeg ac Addysg y Llywodraeth yn seiliedig ar ddiffyg targedau statudol ar gyfer y canran o blant sydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg, cyfran isel o ddysgu’r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn bennaf, a diffyg ymrwymiadau cyllido i uwch-sgilio gallu Cymraeg y gweithlu.

“Mae gan Lywodraeth Cymru y grym i newid y drefn, a gwireddu dyheadau pobl Cymru, er mwyn rhoi’r Gymraeg i bob plentyn,” meddai Toni Schiavone.

“Rydyn ni’n galw ar Mark Drakeford, y gweinidog sy’n gyfrifol am y ddeddfwriaeth yma, i feddwl o ddifri am farn ein pobl ifanc ni sydd wedi cael eu gadael i lawr gan y system bresennol, ac i wneud diwygiadau blaengar i’r Bil fydd yn sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o bobl ifanc yn gadael yr ysgol yn hyderus eu Cymraeg.”