Wrth ymateb i benodiad Kemi Badenoch yn arweinydd y Blaid Geidwadol, dywed Liz Saville Roberts fod “problemau’r Ceidwadwyr yng Nghymru ymhell y tu hwnt i’w chyrraedd”.

Daeth cadarnhad ddydd Sadwrn (Tachwedd 2) fod Badenoch wedi’i hethol yn arweinydd gan aelodau’r Ceidwadwyr, wrth iddi guro Robert Jenrick yn y ras i olynu’r cyn-Brif Weinidog Rishi Sunak.

Mae Badenoch yn 44 oed ac yn cynrychioli etholaeth gogledd-orllewin Essex.

Hi yw’r arweinydd du cyntaf ar unrhyw blaid Brydeinig.

Enillodd hi 53,806 o bleidleisiau, tra bod Jenrick wedi ennill 41,388 o bleidleisiau.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd pwy fydd yn ei Chabinet Cysgodol, ond yr awgrym yw y bydd lle i bob un o’r ymgeiswyr yn y ras arweinyddol, ac eithrio James Cleverly sydd wedi dweud ei fod yn dychwelyd i’r meinciau cefn.

Mae hi’n cydnabod fod rhaid i’r Ceidwadwyr ganfod undod, “bod yn onest am y ffaith ein bod ni wedi gwneud camgymeriadau”, ac yn “onest am y ffaith ein bod ni wedi gadael i’n safonau lithro”.

“Cynnig dim byd” i Gymru

Wrth ymateb, dywed Liz Saville Roberts nad yw Kemi Badenoch yn “cynnig dim byd” i Gymru.

“Doedd Cymru ddim yn rhan o ymgyrch arweinyddiaeth Kemi Badenoch,” meddai.

“Wnaeth hi ddim cynnig dim byd i ni – dim polisïau, dim diddordeb, a dim cydnabyddiaeth o fethiant ei phlaid hi yma.

“Yn hytrach, roedd ei hymgyrch yn frith o wynfyd: honnodd fod tâl mamolaeth wedi mynd yn rhy bell, wnaeth hi stigmateiddio awtistiaeth, a hyd yn oed awgrymu y dylid carcharu gweision sifil.

“Mae’n amlwg fod problemau’r Ceidwadwyr yng Nghymru ymhell y tu hwnt i’w chyrraedd.”