Mae Beth Winter, cyn-Aelod Seneddol Cwm Cynon, wedi cyhoeddi ei bod hi’n gadael y Blaid Lafur.
Mewn datganiad, dywed nad yw hi bellach yn “adnabod” y Blaid Lafur, “nad yw bellach yn cynrychioli’r welediaeth sosialaidd” sydd ganddi.
Dywed mai “braint fwyaf” ei bywyd oedd cael cynrychioli bro ei mebyd, ar ôl iddi gael ei hethol “ar sail maniffesto trawsnewidiol 2019”.
“Fel sosialydd balch, dw i wedi ymrwymo i weledigaeth y maniffesto hwnnw ar gyfer cymdeithas decach, gyfartal a gwyrddach i’r nifer, nid i’r ychydig,” meddai mewn datganiad.
“Yn drist iawn, dydy’r Blaid Lafur ddim bellach yn cynrychioli’r weledigaeth sosialaidd honno, a dw i wedi penderfynu terfynu fy aelodaeth heddiw.
“Dw i ddim yn adnabod y Blaid Lafur heddiw.
“Allaf i ddim, yn ôl fy nghydwybod, aros mewn plaid wleidyddol sy’n canlyn agenda wleidyddol awdurdodol mai eu prif amcan yw cynnal y status quo neoryddfrydol, gwasanaethu buddiannau corfforaethol a gwarchod y dosbarth sy’n rheoli.”
Dywed fod ei barn yn amlwg i’w gweld yn y ffordd y bu’n pleidleisio ac wrth edrych ar ei hareithiau a’i herthyglau.
‘Gwastraffu cyfle’
Wrth amlinellu sut mae’r Blaid Lafur “wedi colli cyfle i sicrhau newid trawsnewidiol”, cyfeiria at:
- wrthod codi’r cap dau blentyn ar fudd-dal plant
- dileu taliadau tanwydd y gaeaf
- diffyg gweithredu ar yr hinsawdd
- cefnogaeth Llafur i breifateiddio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol
- derbyn rhoddion gan bobol gyfoethog
Dywed hefyd fod cyfle wedi’i golli i Gymru o ran Cyllideb y Canghellor Rachel Reeves, fydd yn arwain at gynnal “llymder, anghydraddoldeb, tlodi a chaledi i filiynau o bobol a gadael ein gwasanaethau cyhoeddus ar dorri”.
Tra ei bod hi’n croesawu’r arian ychwanegol i Gymru, dywed fod y swm “yn brin o’r hyn sydd ei angen”.
Ychwanega ei bod hi “wedi ffieiddio” at agwedd Llafur at agwedd y llywodraeth at ymosodiadau Israel ar Gaza a’r ffaith eu bod nhw’n “gwrthod gwerthu’r HOLL arfau i Israel”.
“Ble mae ein dyngarwch?” gofynna.
Dywed fod “y Blaid Lafur wedi fy ngadael i, nid fi sydd wedi gadael y Blaid Lafur”, ond ychwanega ei bod hi’n “llawn gobaith” fod gwir newidiadau’n digwydd tu allan i San Steffan neu’r Senedd.
‘Brys i weithredu nawr’
Dywed fod “brys i weithredu nawr”.
“Mae’r asgell dde eithafol ar gynnydd, gan gynnwys yma yng Nghymru, yn gwthio’u gwleidyddiaeth gasineb a gwneud bwch dihangol a derbynwyr taliadau cymdeithasol am y problemau sy’n cael eu hachosi gan neoryddfrydiaeth,” meddai.
“Dylai hyn godi ofn ar bawb ohonom, a bod yn alwad i ddeffro i weithredu i greu cymdeithas decach, fwy cyfartal a gwyrddach i bawb.
“Mae’n ddyletswydd arnom ni i gyd i WEITHREDU NAWR i sicrhau’r dyfodol hwnnw.”
Cydweithio
Dywed ymhellach y bydd hi, a hithau’n sosialydd, “yn parhau i gydweithio â phob plaid sy’n rhannu’r weledigaeth honno ar gyfer cymdeithas decach, wyrddach, ofalgar a goddefgar”.
“Rhaid i ni ddysgu cydweithio, gan adael safbwyntiau sectaraidd cul ar ôl, er lles pawb,” meddai wedyn.
“Does gan yr un blaid wleidyddol yr holl atebion, a dylem ymgysylltu ag ystod o sefydliadau gwleidyddol, sifil a blaengar i sicrhau gyda’n gilydd y newid sydd ei angen.
“Mae gennym lawer mwy yn gyffredin nag sy’n ein gwahanu ni.
“Wedi’r cyfan, mewn undod mae nerth.
“Edrych ar faniffestos Llafur yn 2017 a 2019 ar gyfer nifer o’r atebion.
“Dyna fydda i’n ei wneud, yn estyn allan i gynifer o bobol â phosib yng Nghwm Cynon, ledled Cymru a thu hwnt, i adeiladu cymdeithas i’r nifer, nid i’r ychydig.
“I bobol, dros heddwch a’r blaned – nid elw.
“Gallwn achub y byd. Iddi!”