Mae Mis Awst yn amser i’r teulu – y plant allan o’r ysgol a’r teulu i gyd i ffwrdd ar eu gwyliau Haf hefyd.

Y flwyddyn yma, roedd rhywbeth ychwanegol yn cael ei chynnal yn y sir lle rwy’n byw, sef yr Eisteddfod Genedlaethol yn Rhondda Cynon Taf. Mae’r Eisteddfod yn rhoi cyfle i ni ddathlu ein hiaith a’n diwylliant, ac i siarad am y math o gymdeithas yr hoffem ei gweld a’r bobol sydd wedi cyfrannu at ein cymdeithas yma yng Nghymru. Ac roedd yr Eisteddfod y flwyddyn yma wedi gwneud hynny, rwy’n teimlo.

Roedd y ffaith ei bod yn cael ei chynnal yn y dref ym Mhontypridd yn bwysig hefyd, yn fy marn i – nid rhywbeth ar wahân i’n trefi a’n cymdeithas, felly, ond yn rhan o le mae pobol yn byw, yn siopa, yn cael amser hamdden. Ie, mae hi braidd yn ddrud, yn enwedig i bobol sy’n dioddef oherwydd costau byw, ond fe wnaeth y Cyngor roi help i rai pobol gael y cyfle i fynd i’r Maes.

I fi, roedd nifer o’r digwyddiadau yn rhan o’n ysbryd cadarnhaol fel cenedl – ysbryd rhyngwladol, ysbryd cynhwysol, ysbryd heddychlon. Mae Cymru yn anelu at fod yn Genedl Noddfa, ac roedd hyn yn amlwg ar y Maes gyda chyfle i gael mosg mewn pabell, a gwybodaeth am ystyr Islam a chyfle i werthfawrogi rhai o’u harferion. A hynny ar amser mor ofnadwy yn ein gwlad.

Tra roedd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal, roedd pobol, yn enwedig yn Lloegr, yn ymddwyn ac yn siarad mewn ffordd hiliol ac Islamoffobaidd. Rhaid gweithio i gael gwared ar y math yma o beth ac, yn wir, roedd hi mor bwysig gweld faint o bobol oedd ar y stryd yng Nghaerdydd, Abertawe, Aberystwyth, Dinbych y Pysgod ac ardaleodd eraill yng Nghymru yn gwrthwynebu’r rhai hiliol ac yn barod i amddiffyn Mwslimiaid.

Doedd dim terfysgoedd ffasgaidd a hiliol yng Nghymru, ond nid yw hynny’n golygu nad oes yna bobol yn ein gwlad fyddai’n cyd-fynd â rhai o’r syniadau – rhaid cofio mor uchel oedd y bleidlais yma yng Nghymru dros Reform, plaid ag arweinwyr sydd wedi helpu i greu’r awyrgylch ofnadwy yma. Yn anffodus, rhaid dweud bod bai ar nifer o wleidyddion o bleidiau eraill hefyd, gyda son am “atal y llongau”, “mewnfudwyr anghyfreithlon”, ac yn y blaen. Rhaid cofio taw pobol sy’n cyrraedd ein gwlad mewn awyrennau jet yw gelyn y dosbarth gweithiol, ac nid pobol sy’n dod yma mewn cychod bach.

Roedd sôn hefyd am bobol o Gymru sydd wedi cyfrannu ar y llwyfan rhyngwladol – un ohonyn nhw o Aberdâr aeth i ymladd yn Sbaen yn y 1930au, sef Edwin Greening. Ac yn yr ysbryd rhyngwladol yma, yn y Babell Heddwch clywsom am y ffordd mae pobol Palesteina yn dioddef nawr oherwydd hil-laddiad mae Israel yn ei greu. Rydw i wedi bod yn galw am gadoediad ers dechrau’r rhyfel yma. Rwy’n galw amdano nawr, ac yn galw ar ein llywodraeth i rhoi stop ar roi arfau i Israel – arfau sy’n lladd plant bach, babanod, dynion a menywod – dros 40,000 ohonyn nhw hyd yn hyn. Roedd ysbryd rhyngwladol yn sicr yn fyw yn yr Eisteddfod, yn enwedig pan wnaeth bachgen ifanc o Balesteina ganu eu hanthem gwleidyddol nhw, ac yna ‘Yma o Hyd’. Mae pobol Palesteina ‘yma o hyd’, ac rydym ni, y Cymry, ‘yma o hyd’ hefyd, ochr yn ochr â nhw.

Cefais gyfle hefyd i gwrdd a nifer o gymdogion ar y Maes – o Shelter Cymru, lle roeddwn i’n gweithio rai blynyddoedd yn ôl, i Cymunedoli Cymru. Mae’n bwysig ein bod ni’n dal ati i weithio i sicrhau cyfle i bawb gael cartref maen nhw’n gallu’i fforddio. Ar yr un pryd, rydw i yn cymryd y cyfle ar hyn o bryd i edrych ar sut allwn ni gryfhau cymunedau, gan sicrhau bod y cyfoeth rydym yn ei greu yn aros yn ein cymunedau gyda phobol leol yn cael y cyfle i reoli a bod yn berchen ar y cyfoeth sy’n cael ei greu yn eu cymunedau – nid ei weld e’n mynd allan o’n gwlad i lenwi pocedi’r cyfalafwyr. Mae gen i weledigaeth sosialaidd, ac mae angen dadl arnom yng Nghymru ar sut i fwrw ymlaen â hyn. Bydd mwy o newyddion ar hyn cyn bo hir!