Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi lansio deiseb yn erbyn y penderfyniad i atal taliad tanwydd y gaeaf i ddeg miliwn o bensiynwyr.
O fis nesaf ymlaen, fydd y rhai nad ydyn nhw’n derbyn credyd pensiwn neu fudd-daliadau eraill sy’n destun prawf moddion ddim yn gymwys i dderbyn y taliadau gwerth rhwng £100 a £300.
Mae Syr Keir Starmer, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, wedi amddiffyn y penderfyniad i ddileu’r taliadau, gan ddweud bod angen trwsio “twll” gwerth £22bn ym mhwrs y cyhoedd.
Yn ôl y rheoleiddiwr ynni Ofgem, mae disgwyl i brisiau nwy a thrydan gynyddu 10% yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, ac i filiau blynyddol cyfun ar ffurf debyd uniongyrchol gostio £1,717 y flwyddyn.
Mae gan bobol tan Ragfyr 21 i wneud cais am gredyd pensiwn a derbyn taliad tanwydd y gaeaf o hyd pe bai eu cais yn llwyddiannus.
Ond mae pryderon y gallai’r sefyllfa arwain at argyfwng iechyd.
Deiseb
Byddai deiseb y Ceidwadwyr Cymreig yn rhoi’r cyfle i bobol ddweud eu dweud am gynlluniau Llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig.
Yn ôl y blaid, mae pensiynwyr Cymru am golli £110m.
“Gyda’r cap ar filiau ynni’n cael ei godi gan y rheoleiddiwr, mae penderfyniad anfaddeuol Llafur i ddileu taliadau tanwydd y gaeaf yn achosi’r perygl o argyfwng tlodi tanwydd ymhlith pensiynwyr yng Nghymru, lle mae gennym ni boblogaeth hŷn,” meddai Andrew RT Davies, arweinydd y blaid.
“Rhaid i Lafur wyrdroi eu penderfyniad a chadw pensiynwyr yn gynnes y gaeaf hwn.”
Yn ôl Samuel Kurtz, llefarydd y blaid ar yr economi ac ynni, mae’r penderfyniad yn “gywilyddus”.
“Wrth i addewidion Llafur i dorri costau ynni fynd yn deilchion wrth i brisiau godi, un o’u gweithredoedd cywilyddus cyntaf oedd torri cefnogaeth tanwydd y gaeaf i bensiynwyr, gan ddangos bod ganddyn nhw’r blaenoriaethau anghywir,” meddai.
“Dyna pam ein bod ni wedi lansio deiseb, fel bod modd i bobol Cymru anfon neges na fyddwn ni’n goddef tlodi tanwydd sydd wedi’i noddi gan y llywodraeth.”