Mae datblygiad yn y cynlluniau i ailagor gweithfeydd copr Mynydd Parys yn “newyddion da”, medd cynghorydd lleol.
Pe bai’r cynllun yn cael ei wireddu, gallai greu 120 o swyddi ar y safle ar Ynys Môn.
Mae’r camau cyntaf i wireddu’r bwriad o ddechrau cloddio dan ddaear yno wedi cael eu cyflwyno, yn ôl y datblygwyr Anglesey Mining PLC.
Yn ôl y profion, mae gwerth tua £755m o gopr, sinc, plwm, arian ac aur yn yr ardal ger tref Amlwch yng ngogledd yr ynys.
Byddai angen buddsoddiad cyfalaf o tua £75m er mwyn ailagor y safle, ac oes y mwyngloddio ar hyn o bryd fyddai rhwng deuddeg a phymtheg mlynedd, medd y datblygwyr wrth BBC Cymru.
“Mae’n newyddion da, y posibilrwydd o dros 100 o swyddi i’r ardal,” meddai’r Cynghorydd Liz Wood, sy’n cynrychioli Annibynwyr Môn yn ward Twrcelyn ar Gyngor Ynys Môn, wrth golwg360.
“Mae’r cwmni wedi addo y byddan nhw’n gweithio efo llefydd lleol i gael cyflogaeth leol.
“Beth sy’n fwyaf pwysig ydy, os ydy o’n digwydd, bod o’n dod â gwaith lleol i’r ardal achos rydyn ni ar Ynys Môn wedi colli gormod o waith rŵan.
“Dw i’n meddwl bod y [datblygwyr] wedi cael sgwrs yn barod efo Coleg Menai fel eu bod nhw’n gallu hyfforddi pobol fyny i ddefnyddio’r peiriannau.
“Yn amlwg, rydyn ni mewn cymuned ffarmio fawr ac wedyn mae nifer o bobol yma’n gallu defnyddio peirannau fel hyn beth bynnag, ond rhywbeth lle mae arbenigedd, maen nhw wedi addo y byddan nhw’n gweithio efo’r ganolfan waith leol a’r coleg hefyd.”
Hanes Mynydd Parys
Er bod tystiolaeth yn dangos bod pobol wedi bod yn cloddio am gopr yno yn yr Oes Efydd ac Oes y Rhufeiniaid, erbyn y 1780au Mynydd Parys oedd gweithfeydd copr mwyaf y byd.
Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif, roedd 3,300 tunnell o fwynau’n cael eu cloddio’r flwyddyn.
Arweiniodd hynny at lwyddiant economaidd a thwf tref Amlwch.
Er bod gweithfeydd tanddaearol mawr wedi agor yno tua 1810, erbyn troad yr ugeinfed ganrif roedd y rhan fwyaf o’r gwaith wedi dod i ben.
Mynydd Trysclwyn oedd yr enw gwreiddiol ar y safle, a derbyniodd ei enw newydd pan gafodd ei roi i Robert Parys, Siambrlen Gogledd Cymru, gan Harri’r IV yn 1406 am gasglu trethi a dirwyon gan drigolion Ynys Môn am gefnogi Owain Glyndŵr.
‘Cefnogaeth leol’
Mae sôn am ailddechrau’r gwaith ym Mynydd Parys wedi codi’i ben sawl gwaith dros y degawdau diwethaf, ond mae Anglesey Mining wedi cyflwyno adroddiad 220 tudalen sy’n rhan o’r broses gynllunio.
Dywed y cwmni y byddai’r mwyngloddio’n digwydd tua 400 medr o dan y ddaear, ac mae disgwyl y byddai tua 40% o’r refeniw yn dod o’r copr a thraean o’r sinc, meddai Rob Marsden, Prif Weithredwr Anglesey Mining, wrth BBC Cymru.
Yn ôl Liz Wood, mae yna gefnogaeth i’r cynlluniau’n lleol ond mae pobol yn poeni na fydd pethau’n mynd yn eu blaenau gan fod uchelgeisiau tebyg wedi’u codi cyn hyn.
“Mae pobol yn meddwl mai’r un stori yw hi, ond blwyddyn wahanol,” meddai Liz Wood.
“Ond dw i wedi cyfarfod efo’r cwmni ac mae’r Prif Weithredwr newydd yn frwdfrydig iawn.
“Dw i’n gobeithio y gwneith hyn fynd ymlaen, y teimlad yn y gymuned yw bod pawb eisiau iddo fo fynd ymlaen ond [yn gobeithio] bod o ddim yn flaidd arall mewn croen dafad, math o beth.
“Os fydd o’n dod, mae o i gyd yn gadarnhaol.”