Bydd tri thrên yr awr, yn hytrach na dau, yn teithio ar hyd prif linell y gogledd yn sgil cynlluniau newydd.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd gwasanaethau trenau’r gogledd yn cynyddu 50% erbyn 2026.

Daw’r newid yn sgil cynllun i wella diogelwch ar y brif linell rhwng Llandudno a Lerpwl.

Mae’r cynigion yn cynnwys cau pedair croesfan reilffordd, dwy ger Prestatyn a dwy ger Pensarn er mwyn i drenau allu mynd yn gyflymach.

Trafnidiaeth Cymru a Network Rail sy’n arwain y gwaith, yn rhan o gynllun ehangach sy’n cael ei gefnogi gan fuddsoddiad o £800m mewn trenau newydd ledled Cymru.

“Rwy’n falch iawn bod gennym bellach gynlluniau cadarn ar waith i gyflawni’r cynnydd enfawr hwn mewn capasiti rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru,” meddai Ken Skates, Ysgrifennydd Trafnidiaeth Cymru.

“Bydd yr uwchraddiadau diogelwch hyn yn galluogi Trafnidiaeth Cymru i gynyddu cysylltedd yn sylweddol gyda llawer mwy o wasanaethau a dewis go iawn o ran trafnidiaeth i gymunedau yng Ngogledd Cymru.

“Mae’n dangos pa waith partneriaeth sy’n gallu cael ei gyflawni: ar lefel diwydiant drwy Network Rail a Trafnidiaeth Cymru, a gyda Llywodraeth y DU yn San Steffan yn cydweithio â Llywodraeth Cymru.”

‘Gwella profiad’

Ychwanega Marie Daly, Prif Swyddog Cwsmeriaid a Diwylliant Trafnidiaeth Cymru, eu bod nhw’n parhau i fuddsoddi a thrawsnewid gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru a’r Gororau.

“Bydd y newidiadau hyn yn y dyfodol yn ein helpu i wella profiad y cwsmer ymhellach,” meddai.

“Byddwn yn gallu cynyddu cysylltedd a chynnig mwy o wasanaethau rheilffordd i bobol Gogledd Cymru.”

‘Dim ond y dechrau’

Dydy hi ddim yn glir eto a fydd y cynllun gafodd ei gyhoeddi gan Rishi Sunak a’i lywodraeth Geidwadol i drydaneiddio’r llinell yn mynd yn ei flaen dan y llywodraeth Lafur.

“Gan weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru rydym yn benderfynol o wneud gwelliannau mawr i wasanaethau rheilffyrdd ledled Cymru,” meddai Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

“Dim ond y dechrau yw datgloi mwy o gapasiti rheilffyrdd yng Ngogledd Cymru a byddwn yn parhau i weithio gyda’n gilydd i drawsnewid gwasanaethau i deithwyr am genedlaethau i ddod.”

‘Haeddu gwell’

Er eu bod nhw’n croesawu’r newyddion am wasanaethau ychwanegol, dywed y Ceidwadwyr Cymreig bod y diffyg buddsoddiad yn isadeiledd y rheilffyrdd yn y gogledd yn “annerbyniol”.

“Mae De Cymru’n derbyn £1bn i uwchraddio llinellau tra bo Gweinidogion Llafur yng Nghaerdydd yn buddsoddi dim ond £50m yng Ngogledd Cymru, ac mae Llywodraeth Lafur newydd y Deyrnas Unedig wedi cael gwared ar gynllun trydaneiddio gwerth £1bn,” meddai Darren Millar, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros Ogledd Cymru.

“Mae teithwyr a chymunedau yng Ngogledd Cymru’n haeddu gwell.”

Cyfrifoldeb Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw isadeiledd y rheilffyrdd yng Nghymru, gan nad yw wedi’i ddatganoli.

Dydy hi ddim yn amlwg eto a yw’r cynllun i drydaneiddio wedi’i anghofio, ond dywedodd Jo Stevens ym mis Gorffennaf ei bod hi’n “amau nad yw’r arian yno”.

Mae’r Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn adolygu cynlluniau isadeiledd, gan gynnwys rhai’n ymwneud â’r rheilffyrdd, ac mae cwestiynau wedi cael eu codi am hyfywedd trydaneiddio rheilffordd y gogledd gan nad oes unrhyw waith wedi’i wneud ar hynny ers 2013.

Cafodd y cynlluniau eu cyhoeddi gan Rishi Sunak fis Hydref diwethaf, a dywedodd y byddai’r arian yn dod drwy beidio mynd â HS2 rhwng Birmingham a Manceinion.