Mae angen i Lywodraeth newydd San Steffan ymrwymo i adeiladu ffordd osgoi ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, medd y Ceidwadwyr Cymreig.
Roedd Llywodraeth Geidwadol flaenorol y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymrwymiadau i symud ymlaen â ffordd osgoi Pant-Llanymynech.
Byddai’r rhan fwyaf o’r ffordd yn Sir Amwythig, a thra bo pentref Pant i gyd yn Lloegr, mae’r ffin rhwng Swydd Amwythig a Phowys yn mynd drwy Lanymynech.
National Highways sydd wedi bod yn arwain ar y gwaith, mewn ymgynghoriad â swyddogion trafnidiaeth Llywodraeth Cymru.
Fodd bynnag, mae Russell George, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Sir Drefaldwyn, yn awyddus i roi pwysau ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i weithredu.
“Mae’r ymgyrch dros ffordd osgoi Pant-Llanymynech yn parhau’n welliant ffordd a diogelwch pwysig,” meddai Russell George.
“Fe wnaeth Llywodraeth flaenorol y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru ymrwymiadau i fwrw ymlaen â’r ffordd osgoi, ond rwy’n awyddus i gadw’r pwysau ar y Llywodraeth Lafur newydd yn San Steffan.”
‘Rhy gynnar i ddweud’
Ddiwedd Gorffennaf, dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ei bod hi’n rhy gynnar i ddweud beth fydd yn digwydd gyda’r ffordd osgoi.
“Mae’r Canghellor yn edrych ar arian cyhoeddus,” meddai Jo Stevens yn ystod y Sioe Frenhinol.
“Rydyn ni’n edrych ar y ffigurau, rydyn ni’n agor caead y bocs ac yn gweld beth sydd tu mewn ac rydyn ni reit flin efo’r hyn rydyn ni wedi’i weld hyd yn hyn.”
Fodd bynnag, ychwanegodd ei bod hi, mewn egwyddor, o blaid cael Cymru a Lloegr yn gweithio’n agos er mwyn creu gwelliannau i bobol sy’n teithio dros y ffin i weithio.
‘Parhau i godi’r mater’
Mae Russell George wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ddiweddariad ar y trafodaethau maen nhw wedi’u cael â Llywodraeth San Steffan ar y mater.
Yn ei ateb, dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, y byddan nhw’n parhau i weithio â’r National Highways “i sicrhau bod unrhyw raglen all gael ei chynnig yn y dyfodol yn cyd-fynd â Strategaeth Trafnidiaeth Cymru”.
“Mae National Highways wedi paratoi achos strategol amlinell oedd yn cynnwys pedwar opsiwn, tair ffordd osgoi ac un gwelliant ar-lein (mae hwn yn welliant neu uwchraddiad i’r briffordd bresennol ar ei lle presennol o fewn ffiniau’r briffordd).
“Mae’r achos hwn gyda’r Adran Drafnidiaeth, ac maen nhw’n ei ystyried ar gyfer Rhan 3 eu Strategaeth Buddsoddi Mewn Ffyrdd (2025 i 2030).”
Ychwanega Russell George ei fod yn gobeithio y bydd y llywodraeth yn San Steffan yn cymryd cam ymlaen gyda’r strategaeth.
“Dw i’n parhau i godi’r rhaglen gyda’r Gweinidog yn y Senedd yn gyson,” meddai.