Mae partneriaid consortiwm Media Cymru yn dod ynghyd i wneud y cyfryngau’n fwy cynhwysol ar gyfer pobol sy’n F/byddar, anabl neu’n niwroamrywiol.

Bydd Uwchgynhadledd Dyfodol Hygyrch yn arddangos dulliau blaengar o drin cynhwysiant, a dyma’r digwyddiad cyntaf o’i fath i ddangos pa mor bell mae’r diwydiant wedi dod i ddarparu ar gyfer ystod eang o bobol sy’n F/byddar, yn anabl neu’n niwroamrywiol mewn cyfarfodydd cynhyrchu.

Gyda Gemau Paralympaidd Paris yn dangos sut mae athletwyr o bob cwr o’r byd yn ehangu terfynau posibilrwydd dynol, mae Media Cymru a phartneriaid consortiwm Prifysgol De Cymru yn paratoi i ddatgelu dulliau newydd sbon o weithio gyda phobol ddall neu F/byddar, anabl a niwroamrywiol y tu ôl i’r sgrin, mewn digwyddiad unigryw yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar Fedi 10.

Uwchgynhadledd a phrif siaradwyr

Gydag un ym mhob pedwar o bobol yng Nghymru bellach yn nodi eu bod yn anabl, a llai nag 8% o gynrychiolaeth ddall neu fyddar, anabl neu niwroamrywiol (DDN) ar y sgrin ac oddi arni, dywed trefnwyr yr uwchgynhadledd y bydd y digwyddiad yn galluogi cyfranogwyr o bob rhan o sector y cyfryngau i ddod yn fwy hyderus o ran anabledd, cael gwell dealltwriaeth o sut i gyflogi, cynnwys, hyfforddi a chefnogi talent DDN, a dod o hyd i adnoddau a chyllid i sicrhau cynyrchiadau mwy hygyrch.

Trwy gydol yr uwchgynhadledd, bydd gweithwyr proffesiynol y diwydiant sgrin yn dod at ei gilydd i drafod hygyrchedd, cynhwysiant a chynrychiolaeth ym mhob agwedd ar gynhyrchu sgrin, gan archwilio arfer gorau a chlywed gan nifer o bobol greadigol anabl fydd yn rhannu eu gwybodaeth a’u profiad.

Mae’r actores Andria Doherty (It’s a Sin, The Way a Lost Boys & Fairies) yn anabl ac yn rhannol fyddar, a bydd yn rhannu ei phrofiad fel prif siaradwr yn yr uwchgynhadledd.

“Mae’n bwysig iawn bod y rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn y diwydiant yn deall ble mae’r problemau a’r rhwystrau ar gyfer pobol ddawnus sy’n F/byddar, yn anabl ac yn niwroamrywiol yng Nghymru, gan hyrwyddo trafodaeth ac anelu at wneud newidiadau er mwyn rhoi chwarae teg i bawb.

“Mae cynifer o bobol greadigol talentog yng Nghymru, o flaen y camera a’r tu ôl iddo, ac eto mae’r cyfleoedd i ni yn gyfyngedig iawn.

“Nid yw addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud bob amser, yn ystod y broses ddethol ac wrth weithio ar setiau.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fod yn rhan o’r trafodaethau yn ystod y dydd fel bod pawb yn dysgu gyda’i gilydd ac yn mynd ati i wneud y newidiadau sydd eu hangen.

“Rwyf wedi cyffroi i glywed am lwyddiannau eraill sy’n gweithio mewn gwahanol rannau o’r diwydiant.

“Rwy’n siŵr y bydd yn ddiwrnod llawn gwybodaeth a chynhyrchiol iawn.”

Mae Kate O’Reilly yn ddramodydd ac yn awdures.

Mae’n ymuno ag Andria Doherty fel prif siaradwr yn yr uwchgynhadledd.

“Mae’r cyfryngau cynhwysol sy’n cynrychioli ac yn adlewyrchu amrywiaeth ein cenedl, sy’n dathlu gwir ehangder dawn – sy’n aml yn cael ei hanwybyddu – yn sicrhau sioeau teledu a ffilmiau gwell i bawb,” meddai.

“Mae Dyfodol Hygyrch yn fenter wych lle gallwn ddod at ein gilydd, dysgu oddi wrth ein gilydd a symud ymlaen yn eofn i sector tecach a mwy teg…”

Creu’r uwchgynhadledd

Yn ôl Sally Lisk-Lewis o Brifysgol De Cymru, cafodd y syniad am yr uwchgynhadledd uchelgeisiol ei greu wrth i Kaite O’Reilly, Andria Doherty a Sara Beer, Cyfarwyddwr Newid Ramps, ddod ynghyd i drafod profiadau menywod creadigol anabl o weithio yn y diwydiannau creadigol.

“Roedd y tair yn rhwystredig oherwydd diffyg cynrychiolaeth pobol anabl ar y sgrin ac oddi arni yn ein sector,” meddai.

“Fel rhywun sydd wedi colli cryn dipyn o’m clyw, roedd yr hyn oedd ganddyn nhw i’w ddweud am yr heriau parhaus sy’n wynebu’r gymuned fyddar, anabl a niwroamrywiol yng Nghymru wedi taro tant go iawn.

“Mae cymaint o waith da eisoes ar waith yng Nghymru i amrywio’r naratif ar y sgrin/oddi ar y sgrin yng Nghymru, ac rydym yn bwriadu ei arddangos yn yr uwchgynhadledd.

“Ond mae llawer mwy y gallwn ac y dylem fod yn ei wneud i ganiatáu i bawb ffynnu yn ein sector.

“Mae dylunio cynhwysol o fudd i bob un ohonom, o’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu neu gyflyrau iechyd dros dro, i unigolion sy’n profi galar poenus neu iechyd meddwl gwael.

“Mae’r digwyddiad hwn yn cynnwys ‘sut’ i fod yn hygyrch yn ogystal ag yn archwilio ‘pam’ y mae o fudd creadigol i gynyrchiadau i gynnwys storïwyr, cast a chriw anabl.

“Rwy’n hynod falch o’r rhaglen y mae ein tîm bach ym Mhrifysgol De Cymru wedi’i rhoi ar waith – a’r siaradwyr a’r dosbarthiadau meistr anhygoel rydyn ni wedi’u trefnu ar gyfer yr uwchgynhadledd agoriadol hon.

“Gyda gweledigaeth Media Cymru ar gyfer twf economaidd cynaliadwy, teg a gwyrdd, mae’n dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd partneriaid y diwydiant yn dod at ei gilydd.”