Stadiwm Principality yng Nghaerdydd fydd lleoliad gig cyntaf Oasis ers i’r brodyr Noel a Liam Gallagher ddod yn ôl at ei gilydd.

Chwalodd y band yn dilyn ffrae rhwng y brodyr yn 2009, ond maen nhw bellach wedi cyhoeddi eu taith aduniad, fydd yn cael ei chynnal ledled gwledydd Prydain haf nesaf.

Ar hyn o bryd, y gred yw y bydd Noel a Liam Gallagher yn perfformio gydag aelodau’r band High Flying Birds, sef band Noel, yn hytrach nag aelodau gwreiddiol eraill Oasis – y gitarydd Paul ‘Bonehead’ Arthurs, y basydd Paul ‘Guigsy’ McGuigan a’r drymiwr Tony McCarroll.

Mae’r daith yn cael ei chynnal i gyd-fynd â phen-blwydd yr albwm Definitely Maybe yn 30 oed.

Byddan nhw’n agor eu taith yng Nghaerdydd, gyda dwy noson ar Orffennaf 4 a 5, cyn mynd yn eu blaenau i Heaton Park ym Manceinion, Wembley yn Llundain, Murrayfield yng Nghaeredin a Croke Park yn Nulyn.

Byddan nhw’n chwarae 14 gig yn ystod misoedd Gorffennaf ac Awst, ac mae disgwyl iddyn nhw gyhoeddi gigs ledled Ewrop yn ddiweddarach.

Bydd tocynnau’n mynd ar werth ar wefannau Ticketmaster, Gigs and Tours a See Tickets am 9 o’r gloch fore Sadwrn (Awst 31), ond does dim manylion ynghylch y pris ar hyn o bryd.