Mae podlediad newydd ar y gweill fydd yn trin a thrafod radio a theledu.

Y newyddiadurwr Andy Bell, sy’n byw yn Canberra ers 1988, sy’n gyfrifol am gyflwyno a chynhyrchu Rhaglen Cymru, fydd ar gael am y tro cyntaf ar Fedi 14 – union 62 o flynyddoedd ers darllediad cyntaf Teledu Cymru.

Rhwng Radio Prifysgol Abertawe yn 1977 a’i ddarllediau wythnosol ar Radio 1PPH yn Canberra yn 2024, mae Andy Bell wedi gohebu, cyflwyno a chynhyrchu rhaglenni radio a theledu ar lwyfannau amrywiol yng Nghymru ac Awstralia.

Roedd yn aelod o griw cychwynnol radio lleol masnaschol Darlledu Caerdydd/CBC yn 1980 cyn symud i Sain Abertawe ac yna BBC Cymru.

Mae e wedi gweithio i’r darlledwr cyhoeddus ABC, rhwydweithiau teledu 9, 10 a WIN, ynghyd â chyfnod fel rheolwr cyfathrebu Swyddfa Ystadegau Awstralia (ABS).

Bydd y podlediad yn rhoi sylw i’r “bobol, y rhaglenni ac, yn bwysig iawn, y dylanwad mae’r diwidiant wedi’i gael ar Gymru ac ar yr iaith”.

Bydd cynnwys Rhaglen Cymru yn amrywio o bennod i bennod, ac yn cynnwys cyfweliadau gyda darlledwyr, cynhyrchwyr a gwrandawyr neu wylwyr fydd yn asgwrn cefn i’r fenter.

Bydd Andy Bell yn creu rhaglenni dogfen ar bynciau unigol ac yn trafod cerrig milltir darlledu ynghyd â’r ymgyrchoedd i sicrhau’r Gymraeg ar yr awyr.

‘Cyrraedd pob cornel o’r byd darlledu’

“Nid podlediad am hanes y BBC a theledu masnachol mo Rhaglen Cymru,” meddai Andy Bell.

“Fy mwriad yw cyrraedd pob cornel o’r byd darlledu.

“Er enghraifft, fe fydd Rhaglen Cymru yn dathlu lansiad radio annibynnol yng Nghymru hanner canrif yn ôl yn gynnar yn y gyfres, gyda thrafodaeth am Sain Abertawe, lle bues i yn gweithio yn yr 80au.”

Zoom fydd y cyfrwng i’r rhan fwyaf o gyfweliadau gan Rhaglen Cymru, gydag Andy Bell yn Canberra, prifddinas Awstralia, a’i westeion yng Nghymru.