Mae’r eitem yma’n rhoi cyfle i siaradwyr newydd adolygu eu hoff raglenni ar S4C gan ddweud beth sydd wedi helpu nhw ar eu taith i ddysgu Cymraeg. Y tro yma, Catherine Howarth o Sir Ddinbych sy’n adolygu’r rhaglen Canu Gyda Fy Arwr…
Pwy wyt ti?
Catherine Howarth ydw i. Dw i’n byw yng nghefn gwlad Sir Ddinbych. Dw i wedi bod yn dysgu Cymraeg ers saith mlynedd. Dw i wedi ymddeol rŵan ond prifathrawes oeddwn i mewn ysgol gynradd fach. Dechreuais i ddysgu Cymraeg ar y cwrs sabothol ar gyfer athrawon cynradd – roedd o’n anhygoel – deg wythnos allan o’r ysgol i ddysgu Cymraeg trwy’r dydd! Wnes i ddysgu llawer yn gyflym iawn. Yn anffodus, oherwydd baich gwaith, roedd rhaid i mi gael brêc o ddysgu Cymraeg am rai blynyddoedd ond mi ddes i yn ôl yn 2020. Rŵan dw i’n astudio ar lefel Uwch yng Ngholeg Llysfasi efo Popeth Cymraeg. Dw i wrth fy modd yn dysgu Cymraeg a defnyddio’r iaith efo fy nghymdogion ac yn yr ardal leol. Dw i’n aelod o Merched y Wawr a Grŵp Cerdded Cymraeg.
Beth ydy dy hoff raglen ar S4C?
Fy hoff raglen ar S4C ar hyn o bryd ydy Canu Gyda Fy Arwr.
Pam rwyt ti’n hoffi’r rhaglen?
Y peth dw i’n hoffi ydy’r cyfle i ddod i adnabod pobl enwog yn well ac i weld yr adweithiau rhyngddyn nhw a’r person sy’n canu efo eu harwr. Dw i’n hoffi meddwl sut faswn i’n teimlo taswn i yn eu sgidiau nhw.
Dw i’n ffan fawr o’r grŵp Bwncath felly roeddwn i’n gyffrous iawn i weld y bennod gyntaf o’r gyfres newydd.
Roedd hi’n grêt i grwydro o gwmpas Bangor Uchaf efo Elidyr Glyn a gweld yr adeiladau ble wnaeth o ysgrifennu rhai o’i ganeuon poblogaidd. Roeddwn i’n fyfyriwr yn y brifysgol yno ac yn byw ym Mangor Uchaf hefyd felly dw i’n adnabod yr ardal yn dda.
Y canwr Ian ‘H’ Watkins o’r grŵp ‘Steps’ oedd yn yr ail bennod. Dysgwr Cymraeg ydy o felly braf oedd ei weld yn defnyddio’r iaith ar y rhaglen. Hefyd mae o’n gymeriad llawn hwyl ond yn sensitif hefyd. Mae’r rhan efo’i fam, sy’n dysgu dawnsio llinell, yn fendigedig hefyd.
Beth wyt ti’n feddwl o’r cyflwynwyr?
Mae’r cyflwynwyr Rhys Meirion a Bronwen Lewis yn fendigedig – mor garedig a chefnogol. Weithiau maen nhw’n canu efo’r arwr hefyd.
Ydyn nhw’n siarad iaith y de neu’r gogledd?
Mae ’na gymysgedd o Gymraeg y gogledd a’r de achos mae Rhys yn dod o Sir Ddinbych a Bronwen o’r Cymoedd, felly braf yw clywed y ddwy dafodiaith.
Faset ti’n awgrymu i bobl eraill wylio’r rhaglen?
Byswn. Mae’r ddwy bennod ar gael ar S4C Clic efo isdeitlau Saesneg neu Gymraeg. Weithiau dw i’n defnyddio’r isdeitlau Cymraeg os ydy pobl yn siarad yn gyflym, wedyn dw i’n gallu gweld y geiriau. Os dw i ddim yn deall y geiriau, rhaid i mi ddefnyddio’r isdeitlau Saesneg. Ond mae’r ddau yn lot o help pan dan ni’n dysgu.
Mae Canu Gyda Fy Arwr ar gael ar S4C Clic.