Mae Arfon Wyn wedi rhoi teyrnged i Dewi ‘Pws’ Morris, “dyn arbennig” wnaeth ei annog i ganu yn Gymraeg.
Bu farw’r actor, cerddor a’r ymgyrchydd yn 76 oed, ar ôl cyfnod byr o salwch.
“Roedd Dewi yn derbyn chdi fel oeddet ti,” meddai Arfon Wyn, prif leisydd y Moniars, wrth golwg360.
Daeth y ddau yn ffrindiau’r pan oedd Arfon Wyn yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe yn y 1970au.
Erbyn hynny, roedd Dewi Pws yn aelod o Tebot Piws, ac Arfon Wyn yn canu efo grŵp Yr Atgyfodiad.
“Roedd gan Tebot Piws gefnogaeth drydanol [yn eu band] – oherwydd roedd Dewi, fel y fi, yn hiraethu am gael grŵp trydanol [yng Nghymru],” meddai Arfon Wyn.
“Beth ddigwyddodd oedd, ymhen ryw flwyddyn wedyn mewn gig yn Abertawe, ddaru fi a Dewi gyfnewid gitars a fuon ni’n ffrindiau ers hynny.”
Mewn gig yn Hwlffordd, bu Dewi yn “pwyso” ar Arfon Wyn i ganu yn y Gymraeg.
“Yn y Saesneg fues i gychwyn efo grŵp o’r enw Resurrection, a nifer o grwpiau Saesneg cyn hynny,” meddai’r cerddor o Fôn.
“Ond, roedd Dewi’n fy annog i ganu yn y Gymraeg, a dyna wnes i.
“Ddim yn bell ar ôl hynny, gafon ni gig yng Nghorwen ar noson gyntaf grŵp Edward H. Dafis yn y pafiliwn mawr.”
‘Derbyn chdi fel oeddet ti’
Ar y pryd, roedd Arfon Wyn yn astudio Diwinyddiaeth yn Abertawe, ac er bod rhai’n rhagfarnllyd o’i ddewis, nid Dewi Pws felly.
“Ar y pryd, roeddwn i’n gwneud Diwinyddiaeth yn y coleg, a doedd o ddim yn sbïo ar hynny o gwbl,” meddai.
“Roedd yna rai pobol yn rhagfarnllyd am bethau fel yna.
“Ond roedd Dewi yn derbyn chdi fel oeddet ti.
“Mi oedd o’n parchu pob dim oeddech chdi’n wneud os oeddet ti’n brwydro dros y Gymraeg 100%, heb ddim ots os oeddet ti’n grefyddol.
“Mi oedd o’n berson arbennig yn y ffordd yna.”
‘Amhosib i’w ddiffinio’
Mae gan Arfon gof o ganu gyda’r Moniars yn Nefyn, lle bu Dewi Pws yn byw gyda’i wraig, Rhiannon, a chriw o hogiau yn gwneud sŵn dros y canu.
“‘Wyt ti’n clywed fi?’ meddai Dewi wrth un o’r hogiau,” cofia Arfon Wyn.
“’Nac dw‘, ymatebodd un o’r hogiau.
“’Wel dwi’n clywed chdi met’, medda Dewi yn ôl wrth yr hogyn. Fe wnaeth o gau ei geg wedyn.”
Ychwanega Arfon bod hyn yn arwyddocaol o’r ffaith bod Dewi eisiau “tegwch i artistiaid”.
“Mi roedd o’n foi amhosib i’w diffinio,” ychwanega Arfon Wyn.
“Dyna’r ydy’r drwg yng Nghymru, mae pawb isio rhoi pawb mewn ryw gategori, a doedd o ddim yn fodlon gwneud hynny.
“Oedd o isio bod yn berson amrywiol – a dyna pam oedden ni’n ffrindiau mor agos.”
Ychwanega Arfon Wyn ei fod wedi mwynhau gallu mynd i berfformio yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon efo Dewi Pws.
Roedd Dewi Pws i’w weld ar nifer o orymdeithiau er lles y Gymraeg, a chymunedau Cymreig dros y blynyddoedd – o Ras yr Iaith, i orymdeithiau Cymdeithas yr Iaith a YesCymru.
Bu’n siarad â golwg360 fis Mai eleni yn ystod gorymdaith ‘Deddf Eiddo – Dim Llai’ ym Mlaenau Ffestiniog
“Yn yr orymdaith, dywedodd Dewi: ‘Mae dal rhaid i ni frwydro, yn does?’ A dyna’r geiriau dw i’n eu cofio fwyaf,” meddai Arfon Wyn.