Mae Dewi ‘Pws’ Morris wedi marw’n 76 oed yn dilyn salwch byr.

Cafodd ei eni yn ardal Treboeth yn Abertawe yn 1948, a’i addysgu yn Ysgol Lon Las ac Ysgol Ramadeg Dynevor.

Aeth i hyfforddi yng Ngholeg Cyncoed i fod yn athro, gan weithio yng Nghaerdydd cyn mentro i’r byd adloniant gyda Chwmni Theatr Cymru.

Ym myd ffilm, mae’n cael ei gofio am ei ran fel Glyn yn y ffilm boblogaidd Grand Slam gyda Hugh Griffith, Windsor Davies, Siôn Probert a Sharon Morgan.

Bu hefyd yn perfformio yn yr opera roc Nia Ben Aur ym Mhafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin yn 1974, gan chwarae’r Brenin Ri.

Bu hefyd yn actio’r cymeriad Wayne Harries yn Pobol y Cwm rhwng 1974 a 1987, a’r Dyn Creu yn Miri Mawr.

Ysgrifennodd i’r gyfres Torri Gwynt a pherfformio ynddi hefyd, yn ogystal ag actio yn y gyfres Hapus Dyrfa ddechrau’r 1990au, ac yn ddiweddarach fel y cymeriad Islwyn yn Rownd a Rownd.

Enillodd e wobr Cyflwynydd Rhanbarthol Gorau gan y Gymdeithas Deledu Frenhinol yn 2003 am y gyfres Byd Pws.

Roedd yn aelod o’r bandiau Tebot Piws ac Edward H Dafis ers dyddiau cynnar y sîn roc Gymraeg.

Cafodd Edward H Dafis ei ffurfio ar ôl i Dewi Pws a Hefin Elis gwrdd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Enillodd Dewi Pws gystadleuaeth Cân i Gymru yn 1971 am ‘Nwy yn y Nen’.

Dros y blynyddoedd diwethaf, bu’n chwarae gyda’r band pync-gwerin Radwm.

Roedd hefyd yn awdur nifer o gyfrolau, gan gynnwys Popeth Pws, Hiwmor Pws ac Wps.

Bu’n Fardd Plant Cymru rhwng 2010 a 2011, ac roedd yn gyfrannwr i’r gyfres Talwrn y Beirdd sawl gwaith.

Cafodd ei dderbyn i’r Orsedd fel Urdd Derwydd er Anrhydedd yn 2010, gan arddel yr enw barddol Dewi’n y Niwl.

Derbyniodd e radd er anrhydedd gan Brifysgol Abertawe yn 2018.

Roedd yn byw yn Nefyn, yn dilyn cyfnodau yn Nhresaith a’r Felinheli, ac mae’n gadael ei wraig, Rhiannon.

Teyrngedau

Yn ôl yr actores Sharon Morgan, mae’n “anodd meddwl am Dewi Pws heb wenu”.

“Gweithiais i lot gyda fe fel actor yn y 1970au, pan o’n i’n gweithio gyda Chwmni Theatr Cymru, gyda dramâu John Gwilym Jones ac wedyn gyda’r pantomeim Cymraeg cyntaf, Mawredd Mawr,” meddai wrth golwg360.

“Wedyn, wnes i weithio gyda fe yn y ffilm Grand Slam, wrth gwrs.

“Roedd e wastad yn gwneud i rywun chwerthin ac yn codi calon. Hyfryd iawn!

“Fel welon ni wedyn, aeth e ymlaen i wneud tipyn o actio yn Hapus Dyrfa, Rownd a Rownd am flynyddoedd, a Pobol y Cwm wrth gwrs.

“Ro’n i’n gariad iddo fe ddwywaith yn Pobol y Cwm, fel Siân Jones yr athrawes ac wedyn Sylvia Bevan.

“Roedd ei ddoniolwch a’i hyfrydwch e wastad yn codi ysbryd.

“Roedd e’n actor arbennig iawn.

“Newyddion trist ofnadwy, a cholled fawr ar ei ôl e.

“Roedd e wastad yn gwenu, a wastad yn codi calon pan oeddech chi’n ei weld e.”

Mae llu o deyrngedau wedi’u rhoi i Dewi Pws ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd.

Yn ôl y cerddor Ryland Teifi, roedd “y dihafal” Dewi Pws yn “arloeswr comedi, cyfansoddwr caneuon meistrolgar, diddanwr, actor ond yn fwy na dim ffrind i bawb ddaeth i’w gwmni”.

Edward H Dafis

Dyma ailgyhoeddi cyfweliad ag Edward H Dafis, saith mlynedd ar ôl eu perfformiad olaf yn Eisteddfod Dinbych

Dewi ‘Pws’ Morris… Ar Blât

Bethan Lloyd

Y cerddor, actor a digrifwr sy’n rhannu ei atgofion bwyd yr wythnos hon