Wrth i ddisgyblion TGAU dderbyn eu canlyniadau heddiw (dydd Iau, Awst 22), mae golwg360 wedi bod yn Ysgol Glan Clwyd yn Llanelwy.
Hon oedd yr ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf i gael ei hagor, a hynny yn 1956 yn y Rhyl, cyn symud i’w safle yn Llanelwy yn 1969.
Ledled Cymru, mae’r nifer oedd wedi pasio â gradd C/4 neu uwch wedi gostwng.
Fe fu cynnydd bach yn nifer y disgyblion yng Nghymru sydd wedi ennill Gradd A/7 neu uwch, o gymharu â’r cyfnod cyn Covid-19.
O gymharu â 2023, mae llai wedi ennill gradd A/7 neu uwch, gradd C/4 neu uwch, a G/1 neu uwch eleni.
Tu hwnt i’r rhifau
Tu hwnt i’r rhifau, mae disgyblion wedi bod yn agor amlenni efo’u canlyniadau ar draws y wlad.
Bu golwg360 yn siarad ag Awel, Huw a Jasmine am yr hyn mae’r canlyniadau’n ei olygu iddyn nhw.
-
Awel
Dywed Awel fod ei chanlyniadau “lot gwell” na’r disgwyl.
“I fod yn hollol onest, dw i’n meddwl hwyrach y baswn i wedi gallu gwneud bach mwy o waith erbyn y diwedd!” meddai.
“Roeddwn i jest yn mynd mor flinedig achos mae o dros fis.”
Er nad yw hi’n siŵr pa bynciau fydd hi’n eu dewis ar gyfer Safon Uwch, dywed ei bod hi’n bwriadu aros yn yr ysgol i astudio yn y Chweched Dosbarth.
“Dwi ddim yn gwybod be arall faswn i’n gwneud,” meddai.
-
Huw
Dywed Huw nad yw’n gwbl hapus efo’i ganlyniadau.
“Ond mae rhai dw i’n hapus efo,” meddai.
Er ei fod wedi adolygu, dywed y byddai “wedi gallu gwneud dipyn bach mwy”.
“Dw i’n meddwl am fynd yn ôl i’r Chweched a chymryd celf, dylunio a thechnoleg os dw i’n gallu, a rhywbeth arall.”
-
Jasmine
Cafodd Jasmine bron iawn yr hyn roedd hi’n disgwyl ei gael, a hynny ar ôl gwneud “gwaith caled” wrth adolygu a sefyll yr arholiadau.
“Ddaru fi gael naw A*, dwy A, a theilyngdod yn fathemateg ychwanegol,” meddai.
“Dw i’n mynd i aros yma i wneud Lefel A; dw i’n meddwl cymryd Hanes, Ffrangeg a Llenyddiaeth Saesneg ac, wrth gwrs, y Bac.
“Ac wedyn dw i eisiau mynd ymlaen i wneud y Gyfraith yn Rhydychen, gobeithio.”
Ychwanega fod ganddi “athrawon anhygoel” i roi cymorth iddi efo’i harholiadau.
‘Hynod hapus a balch’
Dywed Siân Alwen, prifathrawes yr ysgol, ei bod hi’n “hynod hapus” ac yn “falch” o ddisgyblion TGAU’r ysgol.
“Llwyddiant yr unigolyn sydd yn bwysig heddiw yn bendant,” meddai wrth golwg360.
“A gweld eu cynnydd unigol nhw.
“Achos erbyn hyn, mae’r cwricwlwm ei hun yn pwysleisio hynny – felly dyna rydan ni’n dathlu heddiw.
“Dw i’n hynod falch o’r disgyblion, a dw i’n hynod falch hefyd o’r gefnogaeth sydd wedi bod gan y staff i’r disgyblion dros y ddwy flynedd diwethaf.
“Wrth gwrs, mae rhieni hefyd yn chwarae eu rôl dros y ddwy flynedd.”
Gwella
Er gwaethaf llwyddiant nifer o ddisgyblion yr ysgol, dywed Siân Alwen ei bod hi a’r ysgol “am edrych ar y canlyniadau”, ac edrych ar yr hyn mae’r ysgol “yn gallu gwneud i wella”.
Ychwanega ei bod hi’n “hollbwysig” fod disgyblion yn gadael yn ddwyieithog, a hynny wrth gyfeirio at y ffaith fod Ysgol Glan Clwyd yn “ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf Cymru”.
“Mae sicrhau bod ein disgyblion yn hyfedr yn yr iaith yn hollol hanfodol,” meddai.
“A be’ sy’n arbennig ydi eu bod nhw’n gadael efo o leiaf ddwy iaith ac wedi’u harfogi yn barod ar gyfer y cam nesaf.”
Bu’r disgyblion yn ciwio am hyd at hanner awr i drafod y posibilrwydd o ddychwelyd i Ysgol Glan Clwyd.
“Dyma’r ciwiau mwyaf erioed ar gyfer ymuno’r chweched,” meddai Siân Alwen wedyn.
“Dw i wir yn gobeithio y bydd nifer helaeth o’n disgyblion ni yn dod yn ôl i barhau â’u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.”