Mae’r graddau mae disgyblion Ysgol Godre’r Berwyn yn y Bala wedi’u hennill yn eu TGAU yn “adlewyrchiad teg”, yn ôl pennaeth yr ysgol.
Mae diwrnod canlyniadau TGAU yn gychwyn pennod newydd ym mywydau pobol ifanc, er gwaetha’r holl nerfau.
Mae myfyrwyr yn derbyn canlyniadau TGAU, Tystysgrif Her Sgiliau a chymwysterau galwedigaethol lefel 1 a 2 heddiw (dydd Iau, Awst 22).
Dyma’r tro cyntaf ers Covid-19 i’r canlyniadau gael eu dyfarnu yn yr un modd ag yr oedden nhw cyn y pandemig.
Mae’r canlyniadau ledled Cymru yn dangos bod graddau A*-C ychydig yn is na’r flwyddyn cyn Covid-19.
Derbyniodd 62.2% o ymgeiswyr raddau A* i C eleni, o gymharu â 62.8% yn 2019.
Y llynedd roedd y ffigwr yn 64.9%.
Mae golwg360 wedi bod yn Ysgol Godre’r Berwyn yn y Bala i gael ymateb disgyblion wrth iddyn nhw dderbyn eu canlyniadau, ynghyd ag ymateb y brifathrawes Bethan Jones.
Ymatebion y disgyblion
Cafodd 70 o ddisgyblion Blwyddyn 11 yr ysgol eu canlyniadau heddiw, ynghyd â 66 ym Mlwyddyn 10.
Un sydd yn hapus iawn efo’i chanlyniadau ydy Lowri.
“Dw i’n meddwl eu bod nhw wedi mynd yn dda iawn, a dw i’n hapus iawn efo’r canlyniadau.
“Roeddwn i jest yn nerfus nad o’n i wedi gweithio’n ddigon caled neu fod y gwaith caled heb dalu ffwrdd, ond ar ôl eu cael nhw dw i’n hapus.”
Gobaith Lowri yw dychwelyd i’r Chweched Dosbarth yn Ysgol Godre’r Berwyn i astudio Addysg Gorfforol, Busnes, a Dylunio a Thechnoleg.
Un arall sydd wedi derbyn ei chanlyniadau yw Catrin.
“Dw i’n teimlo’n hapus efo’r canlyniadau, achos mi oedd yna rai [pynciau] o’n i ddim yn siŵr iawn os o’n i wedi eu pasio,” meddai.
“Ond dw i wedi pasio bob un, a dw i’n gobeithio astudio cwrs Cam wrth Gam efo’r Chweched ym mlwyddyn 12.”
Dau sydd yn blês iawn efo’u canlyniadau ydy Cian a Noa.
Gobaith Cian ydi mynd ymlaen i wneud prentisiaeth gwaith coed, tra bo Noa yn gobeithio dychwelyd i’r chweched i astudio Addysg Gorfforol, Saesneg ac unai Ffiseg neu Busnes.
Un arall sy’n dychwelyd i’r chweched yw Lleucu, ac mae hithau hefyd yn hapus iawn.
“Dw i mor hapus mod i wedi pasio mathemateg a ma’ hynny’n highlight i fi – a do aeth o’n dda iawn dw i’n meddwl!” meddai.
“Dw i’n gobeithio mynd i’r Chweched, a dw i am wneud Llenyddiaeth Saesneg, Cymraeg, Addysg Grefyddol a Cherdd.”
Roedd Jac hefyd wedi mynd i’r ysgol i dderbyn ei ganlyniadau, a’i obaith yw mynd yn ôl i’r Chweched i astudio Cemeg, Bioleg a Hanes.
‘Adlewyrchiad teg’
Yn ôl Bethan Jones, prifathrawes yr ysgol, mae’r canlyniadau yn rhai teg.
“Maen nhw [graddau] wedi gostwng ers adeg Covid yn amlwg ond maen nhw yn adlewyrchiad teg ac yn ddarlun gwell lle mae’r dysgwr arni,” meddai wrth golwg360.
Ychwanega fod yna “fwy yn flynyddol yn mynegi diddordeb i ddod ’nôl i’r Chweched, ond efallai fod rhan o hynny oherwydd eu bod yn ansicr o beth i’w wneud i’r dyfodol.”
Pynciau academaidd yw’r pynciau gaiff eu cynnig yn y Chweched ar y cyfan, gyda disgyblion yn teithio i Goleg Meirion Dwyfor a thu hwnt i ddilyn cyrsiau galwedigaethol.
Mae’r ysgol hefyd yn cynnig cwrs Cam wrth Gam, sy’n gyfystyr â thair Lefel A, ac felly yn ôl y brifathrawes, mae’r cwrs yma hefyd yn denu myfyrwyr yn eu hôl.