Mae Ysgrifennydd Addysg Cymru wedi llongyfarch disgyblion Cymru ar eu canlyniadau TGAU, ond yn cyfaddef y “gallai mwy gael ei wneud” a bod angen “mwy o gymorth” ar rai ysgolion i wella.
Bu golwg360 yn holi Lynne Neagle ar ôl iddi fod yn ymweld ag Ysgol Uwchradd Pencoed ym Mhen-y-bont ar Ogwr wrth i’r disgyblion yno dderbyn eu canlyniadau.
Dywed ei bod yn “arbennig” gweld cynifer o “wynebau hapus” yn yr ysgol.
“Mae e wedi bod yn ddiwrnod arbennig,” meddai.
“Dw i eisiau llongyfarch pob un o’r bobol ifanc sydd wedi derbyn eu canlyniadau heddiw.
“Maen nhw wedi cael eu haddysg gyfan yn yr ysgol uwchradd yng nghysgod y pandemig.
“Rydym wedi mynd yn ôl i’r trefniadau cyn-pandemig yn llwyr eleni.”
Ychwanega fod hyn yn “gamp wych ar gyfer y dysgwyr hyn”.
Cymwysterau
Yn ystod ei hymweliad, bu Lynne Neagle yn siarad ag athrawon a disgyblion sydd wedi cynnal arholiadau wrth ddychwelyd i’r hen drefn cyn Covid-19 am y tro cyntaf ers y pandemig.
“Dw i wedi siarad â nifer o ddisgyblion sydd wedi gwneud yn wych,” meddai wedyn.
“Disgyblion ag A ac A* – felly camp ardderchog iawn!
“Y peth pwysig gyda mynd yn ôl i’r trefniadau gwreiddiol yw sicrhau bod y cymwysterau yma mae pobol ifanc wedi’u hennill mor werthfawr â’r cymwysterau yng ngweddill y Deyrnas Unedig.”
Fe fu pryderon am safon y cymwysterau gafodd eu dyfarnu i ddisgyblion yn ystod y pandemig, wrth i arholiadau gael eu disodli gan drefn farcio fewnol gan athrawon.
Dychwelodd disgyblion yn Lloegr i’r hen drefn y llynedd, gyda Chymru a Gogledd Iwerddon yn dilyn eleni.
Canlyniadau “yn ôl y disgwyl”
Mae’r darlun ledled Cymru’n un cymysg eleni.
Mae cynnydd bach yn nifer y disgyblion yng Nghymru sydd wedi ennill Gradd A/7 neu uwch o gymharu â’r cyfnod cyn Covid-19.
O gymharu â 2023, mae llai wedi ennill gradd A/7 neu uwch, gradd C/4 neu uwch, a G/1 neu uwch eleni.
O ystyried bod y drefn wedi dychwelyd i’r hyn oedd hi cyn y pandemig, medd Lynne Neagle, mae’r canlyniadau “yn ôl y disgwyl”.
“Yn fras, rydym ar yr un trywydd â 2019,” meddai.
“Mae perfformiad da wedi bod, gyda graddau uwch.
“Ond rwy’ wedi bod yn glir iawn yn fy amser fel Ysgrifennydd Cabinet.
“Dydyn ni ddim mewn unrhyw ffordd yn hunanfoddhaol.”
Codi safonau
“Mae yna fwy bob amser rydym yn gallu ei wneud,” meddai Lynne Neagle wedyn, gan ychwanegu bod codi lefelau presenoldeb a safonau’n gyffredinol ymhlith blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
Mae disgwyl iddi gyhoeddi mesurau i fynd i’r afael â’r heriau hyn yn yr hydref.
Mae’r cwricwlwm presennol ar waith yng Nghymru ers mis Medi y llynedd hefyd.
Er bod rhai ysgolion “yn hedfan” o dan y trefniadau newydd, dywed Lynne Neagle fod “angen mwy o gymorth” ar ysgolion eraill i weithredu’r cwricwlwm newydd.
Ychwanega fod iechyd meddwl hefyd yn faes lle mae angen gweld gwelliant er mwyn helpu safonau mewn ysgolion.
“Mae gwella yn y maes yma yn hanfodol ar gyfer ein cynlluniau i gynyddu safon addysg,” meddai.
“Rydym yn blaenoriaethu rhoi adnoddau i mewn i ysgolion i gefnogi iechyd meddwl a lles.”
Dywed fod £14m wedi cael ei wario ar yr adnoddau hyn, a bod disgwyl i’r cymorth barhau.